Mae Awdurdod Gwella (yr Alban) wedi amcangyfrif bod Awdurdodau Lleol yr Alban yn gwario £6-8 miliwn bob blwyddyn i gyhoeddi hysbysiadau statudol mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol. Mae hysbysiadau statudol yn cynnwys ymgynghoriadau cynllunio, hysbysiadau gwaith priffyrdd, ymgynghoriadau'r GIG, hysbysiadau cyhoeddus yr Awdurdodau Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub a datganiadau cyfrifon.
Mae’r Gwasanaethau Cyhoeddus Albanaidd (Gwasanaeth Gwella) wedi gweithio gydag Asiantaethau Digidol Sector Preifat i ddatblygu dull sydd â’r potensial i leihau costau hysbysebu statudol (ac anstatudol) yn y wasg a chynyddu cyswllt a chyrchiad i’r wybodaeth gyhoeddus werthfawr yma.
Mae yna gyfleoedd ar gyfer:
- Lleihau costau cyhoeddi hysbysiadau statudol cyfredol o 20-30%
- Arbedion mwy drwy symud hysbysiadau statudol i gyd ar-lein
- Arbedion effeithlonrwydd ‘swyddfa gefn’ drwy well gweinyddiaeth o hysbysiadau statudol
- Cynyddu cyrchiad cyhoeddus hysbysiadau drwy sianeli digidol
- Cysylltu â chynigion ar-lein eraill i ddarparu darlun ehangach o weithredoedd lleol, yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol (gwefannau hyper-leol).
Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru, CLlLC, Arfer Da Cymru ac Awdurdod Gwella (yr Alban) cynnal seminar rhyngweithiol, yn rhad ac am ddim, i ddod ag arferion mwyaf cyfredol ar hyd a lled yr Alban ynghyd. Rhannwyd profiadau gyda Gwasanaethau Cyhoeddus Albanaidd a dysgwyd llawer o’u profiadau nhw. Erbyn diwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr yn gallu dewis ac addasu dulliau ar gyfer anghenion hysbysiadau cyhoeddus (PINS) eu sefydliadau nhw, gan eu galluogi nhw i gyflawni mwy gyda llai o adnoddau.
At bwy mae’r seminar wedi ei anelu?
- Awdurdodau Lleol: Gwasanaethau Cyfreithiol; Cynllunio; Trwyddedu; Hysbysiadau Cyffredinol; Swyddogion Cynhwysiant Digidol;
- Adrannau Priffyrdd Sector Cyhoeddus;
- Swyddogion Llywodraeth Cymru;
- GIG Cymru: Grwpiau Ymgynghori Cleifion a’r Cyhoedd a Chynghorau Iechyd Cymunedol;
- Parciau Cenedlaethol;
- Awdurdodau Heddlu; a
- Gwasanaethau Tân ac Achub
Amlinelliad o’r seminar
Roedd y seminar yn cynnwys cyflwyniadau gan:
-
Cyflwyniad gan Alistair Blair – The Potent Mix [PDF 4.2MB Agorir mewn ffenest newydd]
Y manteision o fabwysiadu'r dull gweithredu hwn -
Cyflwyniad gan Tina Mclelland - Gwasanaeth Gwella yr Alban [PDF 2.8MB Agorir mewn ffenest newydd]
Deall sut i wneud newidiadau digidol yn bennaf i wasanaethau a sicrhau y caiff pob sector yn eich cymuned ei gynnwys
Roedd y seminar hefyd yn cynnws gweithdai ar sut i wella’ch adrodd gan:
- Gweithdy gan Adran Cynllunio Cyngor Dinas Glasgow [PDF 2.6MB Agorir mewn ffenest newydd]
- Gweithdy ar Adran Ffyrdd East Lothian (Priffyrdd) [PDF 551KB Agorir mewn ffenest newydd]
- Gweithdy gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam [PDF 596KB Agorir mewn ffenest newydd]
Pryd a ble
Dydd Iau 13eg o Fawrth 2014, 10:00 – 16:00,
Stadiwm SWALEC, Sophia Walk, Caerdydd, CF11 9SZ