Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mewn partneriaeth â CLlLC, Llywodraeth Cymru, Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac Arfer Da Cymru, gwanaethom gynnal digwyddiad am ddim i ystyried Llywodraethu o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Roedd y digwyddiad hwn yn ffurfio rhan o'n rhaglen barhaus sy'n canolbwyntio ar elfennau gwahanol llywodraethu. Mae digwyddiadau blaenorol yn cynnwys:
Roedd y seminar hon yn canolbwyntio ar oblygiadau'r Ddeddf o ran craffu a swyddogaethau anweithredol a'r rôl y mae'n ei chwarae yn fframwaith llywodraethu cyffredinol cyrff cyhoeddus. Roedd y seminar hon wedi'i hanelu at grwpiau allweddol o swyddogion ac aelodau o'r 44 corff sy'n dod o dan y Ddeddf, yn ogystal ag aelodau/swyddogion anweithredol sy'n uniongyrchol gyfrifol am graffu ar swyddogaethau gweithredol.
Galluogodd y seminar hon i'r rhai wnaeth ddod i feithrin dealltwriaeth o oblygiadau'r Ddeddf i'r rhai sy'n craffu ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig o ran y pum ffordd o weithio.
Cafodd y seminar hon ei hanelu at aelodau, rheolwyr a swyddogion yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys:
Deunydd i'w rannu o'r diwrnod (Saesneg yn unig) [PDF 336KB Agorir mewn ffenest newydd]
Gweithdy 1 allbynnau - Amgylchedd [PDF 104KB Agorir mewn ffenest newydd]