Shared Learning Webinar
Seiber-gadernid yng Nghymru

Yn y gweminar yma byddwn yn rhoi cip olwg o ganfyddiadau ein hadroddiad cenedlaethol, rhannu ambell i arfer da a thrafod dyfodol seiber gadernid yng Nghymru. Bydd mynychwyr yn clywed gan arbenigwyr yn y maes a byddant yn gallu cymharu'r trefniadau yn eu sefydliad â chyrff eraill, tebyg.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mwy am y digwyddiad

Mae'r byd modern yn dibynnu fwyfwy ar dechnoleg ddigidol. Mae faint o ddata sy'n cael ei storio gan gyrff cyhoeddus yn tyfu, ac yn gynyddol, mae systemau cyfrifiadurol yn cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Fodd bynnag, un o anfanteision y digideiddio cynyddol hwn yw'r bygythiad seiber cynyddol gan sefydliadau ac unigolion sy'n ceisio ymelwa ar hyn er eu budd ariannol neu wleidyddol eu hunain.

Er mwyn amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau o'r fath, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus nid yn unig cynyddu eu seiber ddiogelwch, ond hefyd eu seiber-gadernid.

Seiber-gadernid yw 'gallu cyffredinol systemau a sefydliadau i wrthsefyll seiber-ddigwyddiadau a’u goresgyn pan ddaw niwed ohonynt' (fel y diffiniwyd gan y Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol).

Mae pandemig COVID-19 wedi pwysleisio ymhellach bwysigrwydd seiber-gadernid. Mae'r ddibyniaeth ar y rhyngrwyd wedi cynyddu yn ystod 2020, gyda niferoedd enfawr o weithwyr cyhoeddus a phreifat yn gweithio o bell, a chyda'r cyhoedd yn cynyddu eu defnydd o'r rhyngrwyd i gysylltu â ffrindiau a pherthnasau.

Mae Archwilio Cymru yn cynnal astudiaeth genedlaethol ar seiber-gadernid yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym wedi cynnal arolwg o tua 70 o sefydliadau yng Nghymru am eu hymagweddau at seiber-gadernid.

Yn y weminar hon rhown gip olwg o'n canfyddiadau, rhannu arferion da a thrafod dyfodol seiber-gadernid yng Nghymru. Bydd ein panel o arbenigwyr yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein gwaith.

Rydym yn disgwyl y bydd y digwyddiad hwn fwyaf defnyddiol i weithwyr y sector cyhoeddus, aelodau Bwrdd ac uwch reolwyr sy'n gyfrifol am seiber-gadernid.

Er mai dim ond i sefydliadau Cymru y mae'r data a gasglwyd yn berthnasol, bydd y negeseuon allweddol yn ddefnyddiol y tu hwnt i Gymru. Credwn y bydd y digwyddiad yn ddefnyddiol i gyrff y sector cyhoeddus ledled y DU a thu hwnt.

Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio a'i gyhoeddi ar ein gwefan ar ôl y digwyddiad.

Cysylltwch â'r Gyfnewidfa Arfer Da

I gofrestru, llenwch ein ffurflen ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd sy’n amlinellu sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle er mwyn sicrhau ein bod yn gallu anfon gwybodaeth atoch.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, anfonwch e-bost i Arfer.Da@archwilio.cymru

 

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan