Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Paratoi ar gyfer Bil Cenedlaethau'r Dyfodol: heriau a chyfleoedd datblygu cynaliadwy.
Trawsgrifiad fideo [PDF 191KB Agorir mewn ffenest newydd]
Hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o Seminarau Dysgu a Rennir, sy'n rhad ac am ddim. Swyddfa Archwilio Cymru sy'n trefnu'r seminarau mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru. Roedd y Seminar yma yn helpu sector cyhoeddus Cymru i baratoi ar gyfer Bil Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd y Bil yn gosod dyletswydd newydd ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i wneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol iddynt.
Buddion mynychu
Trefnwyd y seminar i greu diddordeb ymhlith arweinwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru ac i roi cyfle i ymarferwyr ddatblygu eu hymarfer. Fe adawodd y cynrychiolwyr gyda:
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Llywodraeth Cymru y bydd Sgwrs Genedlaethol yn cael ei chynnal ar yr heriau y mae cymunedau'n eu hwynebu ledled Cymru. Roedd y seminar yn helpu llywio'r Sgwrs Genedlaethol honno.
Amlinelliad o’r seminar
Roedd y seminar yn cynnwys cyflwyniadau gan:
Roedd y seminar hefyd yn cynnws gweithdai ar sut i wella’ch adrodd gan:
Ble a Phryd
Dydd Mercher 5 Chwefror 2014 Sesiwn gyntaf: 0800 - 1000 Ail sesiwn: 1000 - 1300 Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ
Dydd Iau 13 Chwefror 2014 0930 – 1300 Glasdir, Plas-yn-Dre, Llanrwst, LL26 0DF