Shared Learning Seminar
Seminar Goleuni ar Graffu

Cafodd y gynhadledd hon ei chynnal ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Craffu Cyhoeddus ac Ysgol Fusnes Caerdydd.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Trawsgrifiad fideo [Word 21KB Agorir mewn ffenest newydd]

Mae gan graffu rôl allweddol o fewn hunan-reoleiddio a hybu gwelliant, effeithiolrwydd a chydweithio ledled gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn gynyddol wir yn achos ymateb i'r her o'r sefyllfa ariannol fyd-eang, tra ar yr un pryd yn parhau i geisio gwella gwasanaethau. Ond a yw craffu yn cael effaith? Ydych chi'n cael gwerth am arian? A sut ydych chi'n gwybod hynny?

Roedd y gynhadledd yn cynnwys prif anerchiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas. Hefyd, fe glywodd y cynrychiolwyr gan ystod o siaradwyr arbenigol.

Wrth fynychu roedd cynrychiolwyr yn cael:

  • gwell dealltwriaeth o rôl gyfnewidiol a photensial craffu;
  • ffocws cliriach o ble y gellir gwneud gwelliannau i drefniadau craffu;
  • syniadau ar sut i wthio newidiadau ac arloesedd ymlaen drwy rannu profiadau a syniadau.

Roedd y gynhadledd wedi ei anelu at yr isod:

  • Prif Weithredwyr
  • Arweinwyr
  • Aelodau a Phencampwyr Craffu
  • Cadeiryddion Pwyllgorau Archwilio
  • Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd
  • Penaethiaid Polisi a Swyddogion Craffu
  • Yr angen allweddol yw eu bod yn deall y rhan sydd ganddyn nhw i'w chwarae wrth ddarparu craffu effeithiol.

Cynhaliwyd y gynhadledd rhwng 9.15yb a 4.45yp ar ddydd Iau 28ain Tachwedd 2013 yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd.

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan