Seminar Gweithio ar Draws y Cenedlaethau

13 Ionawr 2014
  • Cafodd seminar ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru, gyda Viv Du Feu, Partner yn Capital Law Caerdydd, fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i rannu atebion arloesol er mwyn alluogi sector cyhoeddus Cymru i reoli darpariaeth gwasanaeth mewn cyfnod anodd.

    Roedd y seminar yn anelu at fynd i'r afael â materion gweithlu cyffredin sy'n wynebu sefydliadau yn y sector cyhoeddus.

    Gellir gwylio'r cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar.

    Roedd y seminar wedi ei anelu at rolau o fewn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, yn arbennig:

    • Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol;
    • deiliaid Portffolio AD gweithredol/anweithredol;
    • Cyfarwyddwyr sy'n delio â chwsmeriaid;
    • Rheolwyr Newid;
    • Arweinwyr Polisi ar gyfer y gweithlu;
    • gweithwyr proffesiynol allweddol sy'n ymwneud â Datblygu Talent, Datblygu Gweithlu.

    Amlinelliad o’r seminar

    Roedd y seminar yn cynnwys dwy sesiwn:

    Sesiwn 1: Roedd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg gan Viv Du Feu o effaith bresennol y cenedlaethau ac effeithiau gweithio ar draws nifer o genedlaethau, a'r goblygiadau i sefydliadau.

    Sesiwn 2: Setiau dysgu gweithredoedd cynrychiolwyr ar y themâu isod:

    • Goblygiadau a rheoli pan fo recriwtio allanol wedi ei atal dros dro;
    • Beth i'w wneud pan mae'n bryd i ddiweddaru polisïau;
    • Pan rydych am recriwtio rôl benodol; a
    • Rôl mentora a hyfforddi.

    Pryd a ble

    Dydd Mawrth 26 Mawrth 2013
    0900 – 1300
    Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details