Seminar Ymddiriedolwyr

13 Ionawr 2014
  • Mae llywodraethu effeithiol yn galluogi'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau gwell â llai o adnoddau. Ydy'ch ymddiriedolwyr chi mewn safle da i wneud y gorau o'r cyfleoedd sy'n dod iddynt?

    Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru, y Comisiwn Elusennau ac Arfer Da Cymru cynnal seminar rhyngweithiol rhad ac am ddim, er mwyn dod ynghyd â'r arferion mwyaf cyfredol ar draws Cymru a thu hwnt. Erbyn diwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr yn gallu dewis o ddulliau gwahanol, a'u haddasu er mwyn gweddu i'w anghenion eu hunain, gan eu galluogi nhw i gyflawni mwy â llai.

    Gellir gwylio y cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar.

    Roedd y seminar wedi ei anelu at y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru:

    • Ymddiriedolwyr
    • Aelodau Bwrdd Anweithredol
    • Eraill sy'n gyfrifol am lywodraethu

    Amlinelliad o’r seminar

    Roedd y seminar yn cynnwys dau sesiwn arddangos lawn:

    • Gwersi a Ddysgwyd: Myfyrdodau ar adroddiadau diweddar
      Swyddfa Archwilio Cymru, Anthony Barrett a WCVA, Anna Lewis
    • Y Diwylliant Grantiau Newydd: Disgwyliadau ar Ymddiriedolwyr
      Cyngor Celfyddydau Cymru, Hywel Tudor

    A dewis i fynychu dau o'r gweithdai canlynol:

    • Llythrennedd Ariannol
      Grŵp Cyllid Elusennol, Helen Saxton a Frank Learner
    • Ymddiriedolwyr a Gwneud Penderfyniadau
      Comisiwn Elusennau, Tim Reese a Rosie Stokes / Nia Jones a Nia Morgan
    • Recriwtio Ymddiriedolwr Amrywiol
      WomenCount, Norma Jarboe

    Pryd a ble
    Dydd Mercher 6 Tachwedd 2013,0900 - 1300,
    Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ

    Dydd Mercher 22 Ionawr 2014, 0900 - 1300,
    Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details