Sut mae technoleg yn galluogi gweithio'n gydweithredol ar draws gwasanaethau cyhoeddus

06 June 2019
  • Bydd y seminar yma’n arddangos ystod o offer digidol a sut allant wella cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus. 

    Mwy am y digwyddiad hwn

    17 Hydref: Llanrwst, Conwy
    24 Hydref: Clwb Criced Morgannwg, Caerdydd

    Mae gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol iawn, ac mae gweithio mewn partneriaeth wedi dod yn rhan allweddol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

    Yn ogystal â hyn, rydym yn byw mewn byd lle mae technolegau digidol yn newid trwy’r amser. Mae’r posibiliadau sydd gan dechnolegau digidol i’w cynnig yn ddiddiwedd.

    Bydd y seminar hon hefyd yn rhannu enghreifftiau o sefydliadau sy’n gwneud y mwyaf o ddefnydd o dechnolegau digidol, sy’n eu galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n hybu annibyniaeth, atal, brwydro yn erbyn arwahanrwydd cymdeithasol a llesiant cymunedol. Mae modd addasu’r enghreifftiau hyn ar draws unrhyw wasanaeth cyhoeddus.

    Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da

    I gysylltu â’r tîm Cyfnewidfa Arfer Da, ebostiwch arfer.da@archwilio.cymru. 

    Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

    Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details