Syniadau Staff: Dull o ymgysylltu sy’n cefnogi gwelliant

07 Mai 2015
  • Fe wnaeth y weminar rhad ac am ddim hon trafod ymgysylltu â staff drwy gynlluniau syniadau, a rhannodd cyngor defnyddiol am ddulliau gwahanol a’r gwersi a ddysgwyd.

    Mae’r ffordd y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yn y dyfodol yn newid. Bydd staff yn chwarae rhan allweddol yn hyn o beth, gan ddefnyddio eu gwybodaeth am wasanaethau a’u syniadau ynglŷn â sut i wella ac arloesi.
    Roedd y gweminar hon yn rhan o National Ideas UK Week [Agorir mewn ffenest newydd] a chafodd ei gyflwyno ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Ideas UK [Agorir mewn ffenest newydd].
     
    Roedd y gweminar yma yn canolbwyntio ar:
    • Pam ei bod yn bwysig casglu syniadau gan eich staff?
    • Pa ddulliau ydych chi’n eu defnyddio?
    • Pa fuddion ydych chi’n eu cael?
    • Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sy’n meddwl am gasglu syniadau gan staff?

    At bwy roedd y gweminar wedi ei hanelu

    Roedd y gweminar hon wedi ei hanelu at reolwyr a swyddogion yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, sy’n gyfrifol am y canlynol:
    • unedau newid ac arloesi
    • effeithlonrwydd ac ail-ddylunio gwasanaethau
    • gwella perfformiad
    • datblygiad sefydliadol, ac
    • adnoddau dynol/datblygu staff
    Roedd yn cynnwys trafodaeth rhwng:
    • Stuart Laws, Uned Ddiwygio Amddiffyn – Rheoli Syniadau, y Weinyddiaeth Amddiffyn
    • Zufishan Yousaf – Rheolwr Gweithrediadau, Ideas UK
    • Steff Griffiths – Cymuned Gwella Parhaus Cymru Gyfan, a
    • Chris Bolton – Rheolwr Arfer Da, Swyddfa Archwilio Cymru

    Ble a phryd

    Dydd Mawrth 12 Mai 2015, 1100 - 1200

    Cyfryngau cymdeithasol 

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details