Trefniadau archwiliad mewnol mewn cynghorau tref a chymuned

04 June 2019
  • Yn dilyn cyhoeddi ein Trefniadau Archwiliad Mewnol mewn Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru yn ddiweddar, bydd y weminar ryngweithiol hon yn rhannu syniadau i symud ymlaen gyda'r argymhellion.

    Mwy am y digwyddiad hwn

    Dyma’r ail mewn cyfres o weminarau ar gefnogi cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Fe gynhaliom weminar yn Chwefror 2017 ar Reolaeth a llywodraethu ariannol mewn cynghorau cymuned.

    Mae rolau cynghorau tref a chymuned yn cynyddu o ran eu cyfraniadau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.  Gyda hynny daw angen i sicrhau bod eu prosesau mewnol eu hunain yn cefnogi'r anghenion hyn.

    Mae’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliad (Cymru) 2014 yn galw ar gynghorau tref a chymuned i gael trefniadau digonol ac effeithiol ar waith ar gyfer archwiliad mewnol o’u cofnodion cyfrifo a’u systemau rheolaeth fewnol.

    Bydd y weminar hon yn gyfle gwych i gynghorau ddod ynghyd naill ai fel unigolion neu mewn grwpiau i geisio eglurder ar y pwyntiau fydd aelodau’r panel yn eu codi.

    Pwy ddylai fynychu

    Mae’r weminar wedi ei hanelu at Gynghorwyr Tref a Chymuned a Chlercod i'r Cynghorau.

    Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da

    Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.

    Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

    Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.

    Cynnwys cysylltiedig

    Adroddiad - Trefniadau Archwilio Mewnol Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru

    Adroddiad - Rheoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details