Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Tynnodd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol sylw at ansicrwydd a fynegwyd gan y Cyngor ynghylch ei asedau tir ac adeiladau ac ar ei gyfran o asedau eiddo'r gronfa bensiwn sy'n deillio o bandemig Covid-19.
Mae pandemig COVID19 wedi cael effaith sylweddol ar holl agweddau o’n cymdeithas ac yn parhau i wneud hynny. Mae’n ofynnol trwy’r gyfraith i baratoi cyfrifon o fewn amserlenni penodedig. Mae paratoadau o gyfrifon 2019-20 wedi bod yn her sylweddol i’r Cyngor ac ni chyflwynwyd y cyfrifon drafft i’w archwilio yn ôl yr amserlen a gytunwyd arno, a bu nifer o oedi yn dilyn hynny. Rydym yn gwerthfawrogi bod ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gweithio i ffwrdd o’r swyddfa, peidio cael mynediad at gopïau caled o gofnodion a chysylltu â chydweithwyr yn rithiol wedi cyflwyno oedi annisgwyl wrth gael gwybodaeth i gefnogi’r cyfrifon. Mae newidiadau swyddi o fewn y tîm cyllid, ac felly colled o brofiad, hefyd wedi ychwanegu at yr her.
Tynnodd barn yr Archwilydd Cyffredinol sylw at ansicrwydd posib ym mhrisiad asedau eiddo ac asedau eiddo sy'n rhan o balans eu Rhwymedigaethau Cronfa Bensiwn o ganlyniad i'r pandemig COVID19
Aeth y Cyngor i gostau heb gyllideb o £0.25m yn ymwneud â'r llifogydd a'r difrod stormydd a achoswyd gan Storm Dennis yn ystod mis Chwefror 2020.
Ardystiodd yr Archwilydd Cyffredinol ddatganiadau ariannol 2019-20 y Cyngor gyda barn archwilio ddiamod. Wrth wneud hynny tynnodd yr Archwilydd Cyffredinol sylw at bwyslais o fater o ran ansicrwydd materol oherwydd y pandemig mewn perthynas ag asedau eiddo o fewn y gronfa bensiwn.
Rhyddhaodd RhCT £1.5m o'r gronfa gyffredinol i roi cymorth i breswylwyr a busnesau a gafodd eu heffeithio. Roedd y llifogydd hefyd wedi niweidio rhai o Eiddo, Peiriannau ac Offer y Cyngor, ac roedd yr amcan-gost o’u adnewyddu yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn fwy na £60m.
Nid oeddem yn gallu cynnal ein harchwiliad ar safle'r Cyngor oherwydd pandemig Covid-19. Dangosodd trafodaethau cynnar gyda'r tîm y gellid cynnal yr archwiliad o bell drwy ddefnyddio Microsoft Teams. Gan ddefnyddio'r feddawledd hwn, rydym wedi llwyddo i rannu ein sgrîn ac arsylwi aelodau'r tîm yn rhedeg adroddiadau ac anfon y rhain atom, yn union fel petawn yn ei arsylwi wrth estedd wrth ymyl yr unigolyn.
Talodd y Cyngor £2.5m mewn grantiau busnes Covid-19 cyn 31 Mawrth 2020.
Prynodd y Cyngor safle’r Red Dragon Centre gyda’r nod o adeiladu arena newydd i’r ddinas.
Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol barn diamod o'i archwiliad o Gyngor Castell-Nedd Port Talbot.
Mae gan y Cyngor ddull clir wrth reoli'n ariannol sy'n gweithio'n dda iddynt ac yn ei helpu i barhau'n gynaliadwy'n ariannol
Mae'r Cyngor yn parhau i wynebu her ariannol sylweddol ac angen cyflawni ei gynllun arbed ar y cyflymder a maint sydd ei hangen ar yr un pryd â rheoli gwariant gwasanaethau o fewn cyllidebau.
Tynnodd tystysgrif archwilio'r Archwilydd Cyffredinol sylw at ansicrwydd a ddatgelwyd gan y Cyngor ynghylch prisio tir ac adeiladau, eiddo buddsoddi ac asedau'r gronfa bensiwn sy'n deillio o'r pandemig COVID-19.
Derbyniodd y Cyngor £7.1 miliwn o gyllid grant ar gyfer ysgolion yr 21ain ganrif
Mae’r Cyngor hefyd yn gyfrifol am baratoi cyfrifon blynyddol Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) a dderbyniodd barn archwilio glân.
Mae'r Cyngor wedi cynnal safle ariannol cynaliadwy hyd yma ond bydd angen arnynt i barhau i weithredu arbedion er mwyn cyrraedd pwysau cyllidol a ddisgwylir. Mae'r Cyngor wedi adnabod arbedion cyllidebol o £4.4m ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21 arhagamcanion ar gyfer blynyddoedd i ddod.
Tynnodd tystysgrif archwilio'r Archwilydd Cyffredinol sylw at ansicrwydd a ddatgelwyd gan y Cyngor ynghylch prisio tir ac adeiladau, eiddo buddsoddi ac asedau'r gronfa bensiwn sy'n deillio o bandemig COVID-19.
Mae'r Cyngor wedi cynnal sefyllfa ariannol gynaliadwy hyd yma ond bydd angen iddo barhau i gyflawni arbedion o ystyried y pwysau cyllidebol a ragwelir.
Fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif agorodd y Cyngor adeilad newydd Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn swyddogol. Cynllun gwerth £21m yw hwn a ariennir ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Mae'r Cyngor wedi ymgymryd â £17.5m o fenthyca tymor hir o'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn ystod 2019-20 i ariannu cynlluniau gwariant cyfalaf.
Tynnodd barn yr Archwilydd Cyffredinol sylw at ansicrwydd posibl wrth brisio asedau eiddo, a hefyd asedau eiddo sy'n rhan o balans rhwymedigaeth y gronfa bensiwn, o ganlyniad i bandemig Covid-19.