-
Application process
Application process
Cais ar-lein
Mae ein proses ymgeisio yn gymysgedd o ffurflen gais fer ac anfon eich CV a llythyr cyflwyno byr yn manylu ar eich diddordeb yn y swydd.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd nid yn unig yn cwrdd â'n meini prawf academaidd ond sy'n dangos diddordeb amlwg yn y rhaglen a'r sector cyhoeddus. Wrth ysgrifennu eich llythyr cyflwyno, sicrhewch eich bod yn dweud ychydig amdanoch eich hun a'r sgiliau a'r profiadau sydd gennych a sut y bydd y rheiny yn eich helpu yn y swydd dan hyfforddiant. Rydym am weld tystiolaeth o'ch ymrwymiad i'r sector cyhoeddus ac i ennill cyflog wrth ddysgu fel cyfrifydd dan hyfforddiant.
Mae pobl sy’n frwd dros waith Swyddfa Archwilio Cymru a’r ffordd maent yn teimlo y gallant gyfrannu ato bob amser yn gwneud argraff arnom, felly byddem yn eich annog i wneud gwaith ymchwil a meddwl sut rydych yn eich gweld eich hun yn gweithio gyda ni.
Ar ôl ei gwblhau, caiff eich cais ei farcio gan ein sgrinwyr profiadol. Os byddwch yn bodloni'r marc lleiaf sydd ei angen, byddwch yn symud ymlaen i Gam 2, sef, cwblhau profion seicometrig.
Awgrym: Y ffurflen gais yw eich cyfle i werthu eich hun a gwahaniaethu eich hun o’i gymharu â’r ymgeiswyr eraill. Ceisiwch sicrhau eich bod yn deall hanfod y swydd, a'r sefydliad ac y caiff hyn ei adlewyrchu yn y llythyr cyflwyno.
Profion seicometrig
Gofynnir i chi gwblhau cwpl o brofion seicometrig. Mae'r profion hyn yn adlewyrchu'r sgiliau a'r dawn yr ydym yn chwilio amdanynt yn y swydd i raddedigion.
Awgrym: Awgrymwn ichi roi cynnig o leiaf unwaith ar bob prawf yn gyntaf cyn cwblhau’r profion. Bydd hyn yn rhoi teimlad ichi o’r mathau o gwestiynau a ofynnir a faint o amser sydd angen i’w hateb. Mae’n ffordd wych i baratoi, gan eich helpu i ymlacio ac i chi berfformio i’r eithaf.
Canolfan asesu
Bydd hyn yn golygu nifer o ymarferiadau unigol ac mewn grŵp lle cewch eich asesu yn ôl y disgrifiad swydd/manyleb person a’r gwerthoedd a’r ymddygiadau.
Caiff rhagor o fanylion am y ganolfan asesu eu darparu os gwahoddir chi i fod yn bresennol.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu, cewch eich gwahodd i gam 3 yn y broses asesu.
Cyfweliad
Cyfweliad gan banel fydd y cyfweliad terfynol a fydd hefyd yn gyfle gwych ichi ofyn unrhyw gwestiynau i ni am ein sefydliad a’r rhaglen hyfforddi.
-
SWYDDI DDIWEDDARAF
Prentis CyllidYdych chi'n chwilio am ddewis arall yn lle'r brifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor? Oes gennych chi ddiddordeb mewn ennill a dysgu drwy gyfrwng prentisiaeth lefel uwch? Yna efallai mai’r Rhaglen Prentisiaeth Cyllid yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano.