• Beth fydd ei angen arnoch chi

Beth fydd ei angen arnoch chi

Mae gennym ddiddordeb gwirioneddol mewn gwybod pwy ydych chi, beth yw eich cryfderau a’ch potensial.  

Beth bynnag yw disgyblaeth eu gradd, rydym yn chwilio am unigolion gyda chefndir academaidd da iawn sydd wedi ymrwymo i wella gwasanaethau sector cyhoeddus ac yn ystyried eu hunain yn arweinwyr y dyfodol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.   

Byddwch angen:

  • Gradd dosbarth 2:1 mewn unrhyw ddisgyblaeth neu 2:2 lle mae gennych gymwysterau ychwanegol fel gradd meistr
  • Canlyniadau academaidd da iawn ar lefel Safon Uwch neu academaidd gyfatebol
  • TGAU Saesneg iaith lefel 4 os cyn 2017 neu C os wedi hynny
  • TGAU Mathemateg lefel 5 os cyn 2017 neu B os wedi hynny

Byddwch:

  • Wedi ymrwymo i weithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
  • Bod yn naturiol chwilfrydig, yn hyderus wrth herio ac wrth gael eich herio ond mewn modd proffesiynol
  • Gallu dangos sylw rhagorol i fanylion tra'n gallu gweld y darlun ehangach
  • Gallu dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Gallu dangos sgiliau holi a gwrando da
  • Gallu dangos gwydnwch i gydbwyso gofynion gweithio ochr yn ochr â hyfforddiant proffesiynol
  • Gallu dangos sgiliau rhyngbersonol da gydag ethos gweithio mewn tîm; a
  • Gallu dangos cymhelliant ac ymrwymiad i fod yn gyfrifydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y sgiliau a’r galluoedd sy’n angenrheidiol ar gyfer y swydd i’w chael yn y disgrifiad swydd [agorir mewn ffenestr newydd].

 

 

Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y Gymraeg yn ein gwaith ac yn anelu at ddarparu gwasanaeth dwyieithog i bawb sy’n dymuno’i ddefnyddio.

Felly, hoffem yn arbennig annog ceisiadau gan unigolion sydd â sgiliau yn y Gymraeg i’n helpu i gyrraedd y nod hwn. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn, ond bydd nifer ohonynt yn hanfodol bod gennych sgiliau Cymraeg.

Bydd pob disgrifiad swydd yn nodi a yw gallu siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol. Os byddwch yn llwyddiannus ac os nad oes gennych sgiliau yn y Gymraeg ar hyn o bryd, gallwn eich cefnogi i ddysgu Cymraeg os dymunwch.

Mae’r sgiliau yn y Gymraeg dilynol yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Cyfeiriwch at ein matrics sgiliau iaith [PDF 549KB agorir mewn ffenestr newydd] am ddisgrifiad o'r gwahanol lefelau sgiliau.

Cysylltwch â ni os hoffech drafod natur y sgiliau Cymraeg sydd wedi’i nodi ar gyfer y swydd hon.

Sgiliau iaith Gymraeg - dymunol

  • Darllen - yn gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda chymorth e.e. geiriadur
  • Llafar - yn gallu cynnal rhai sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith
  • Deall - yn gallu deall sgyrsiau arferol sy'n gysylltiedig â gwaith
  • Ysgrifenedig - yn gallu paratoi deunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda pheth gwirio
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy  
  • SWYDDI DDIWEDDARAF

    Peiriannydd TGCh
    Ynglŷn â'r swydd  Mae Archwilio Cymru yn bwriadu recriwtio peiriannydd cymorth TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu)