Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Aelod Annibynnol Pwyllgor Sicrwydd Risg ac Archwilio

13 Mai 2024
  • Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Aelod Annibynnol o’n Pwyllgor Sicrwydd Risg ac Archwilio?

    Ynglŷn â'r Pwyllgor Sicrwydd Risg ac Archwilio

    Sefydlwyd y pwyllgor gan Swyddfa Archwilio Cymru i gefnogi'r Bwrdd a'r Swyddog Cyfrifyddu drwy adolygu cynhwysedd a dibynadwyedd sicrwydd ar lywodraethu, rheoli risg, yr amgylchedd rheoli a chywirdeb datganiadau ariannol a'r adroddiad blynyddol.

    Mae'r Pwyllgor yn cynnwys dau aelod anweithredol o Swyddfa Archwilio Cymru, un ohonynt yn Gadeirydd y Pwyllgor; un aelod annibynnol; ac aelod etholedig o'r Bwrdd.

    Aelod Annibynnol o’n Pwyllgor Sicrwydd Risg ac Archwilio

    Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ymhlith sgiliau eraill, y profiad o weithio ar lefel Bwrdd yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector, profiad ariannol diweddar a pherthnasol a dealltwriaeth o rôl a pherthnasedd archwilio cyhoeddus. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â gwybodaeth a phrofiad sy'n ategu galluoedd aelodau presennol y Pwyllgor. Byddai profiad o un neu fwy o'r canlynol yn cael ei groesawu'n fawr.

    • llywodraethu, sicrwydd a rheoli risg.
    • archwilio mewnol.
    • archwilio allanol.
    • technoleg gwybodaeth, seiberddiogelwch / Deallusrwydd Artiffisial.


    Ar y cyd ag aelodau eraill y Pwyllgor, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

    1. mynychu a chwarae rhan lawn yn y gwaith o gynnal cyfarfodydd y Pwyllgor.
    2. cyfrannu at adroddiad ffurfiol blynyddol y Pwyllgor i'r Bwrdd ar ei weithgareddau; a
    3. mynychu unrhyw weithgareddau dysgu a datblygu a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill yn unol â chais y Bwrdd neu'r Swyddog Cyfrifyddu.

    Y gydnabyddiaeth ariannol yw £5,000 y flwyddyn. Bydd treuliau sy’n cael ei wario yn ystod eich dyletswyddau ar y Pwyllgor yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi teithio a chynhaliaeth y Bwrdd.

    Mwy o fanylion

    Gallwch ddarganfod mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl yn swydd ddisgrifiad Aelod Annibynnol o’n Pwyllgor Sicrwydd Risg ac Archwilio.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafodaeth anffurfiol gyda Chadeirydd y Pwyllgor ynghylch y rôl a'r broses, e-bostiwch BoardandCommittee.Support@audit.wales

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 24 Mai 2024.