Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Ai chi allai fod ein Brentis Gwyddor Data nesaf?

03 June 2025
  • Canfuwch fwy am ein rhaglen arloesol, a ariennir yn llawn.

    A ydych chi wrth eich bodd gyda rhifau, tueddiadau a graffiau? A oes gennych chi ddiddordeb mewn codio cyfrifiadurol? Os oes, darllenwch ymlaen!

    Beth yw'r cyfle?

    Mae ein prentisiaeth Gwyddor Data yn rhaglen dair blynedd a ariennir yn llawn, sy'n darparu'r cyfle unigryw i ddod yn ddadansoddwr medrus a chyflawni gradd mewn gwyddor data. Byddwch yn ennill wrth i chi ddysgu a datblygu profiad gwerthfawr yn y gwaith.

    Byddwch yn ennill ystod gynhwysfawr o sgiliau a phrofiadau dadansoddol, tra'n cyfrannu'n weithredol at waith pwysig Archwilio Cymru.

    Beth fyddwch chi'n ei wneud?

    Byddwch yn rhan o'n tîm Dadansoddeg Data gweithgar sy'n gyfrifol am wella pob agwedd ar y ffordd rydyn ni'n defnyddio data.

    O ddydd i ddydd, byddwch chi'n helpu i arwain ymchwil a datblygu o ran technegau ac offer data arloesol ac adeiladu offer data effeithiol a'u hymgorffori fel rhan normal newydd o'n gwaith. Byddwch hefyd yn rhan o'r tîm sy'n ysgogi moderneiddio archwilio ariannol a pherfformiad trwy ei hwyluso drwy data, a mwy. Gallwch ddod o hyd i'r manylion llawn am y swydd ar ein gwefan.

    Pwy ydych chi'n chwilio amdano?

    Rydyn ni'n chwilio am rywun sydd wrth eu bodd gyda data! Gallech fod yn rhywun sydd newydd ddechrau yn eich gyrfa neu'n chwilio am newid gyrfa. Nid oes gan ein rhaglen unrhyw gyfyngiadau o ran oedran.

    Pam ymuno â ni?

    Trwy ymuno â ni, byddwch yn cael hyfforddiant a mentwra cynhwysfawr, yn y swydd gan eich rheolwr llinell i'ch helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo fel dadansoddwr data a gweithdai a gweithgareddau hyfforddi, a ddarperir gan ddarparwr hyfforddiant prentisiaethau blaenllaw. Byddwch hefyd yn cael eich ategu gan amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol.

    Mae gennym becyn cyflog a budd-daliadau hael iawn, gan gynnwys:

    • £27,601- 33,596 
    • 3 diwrnod o wyliau blynyddol 
    • 35 awr o waith yr wythnos.
    • Absenoldeb astudio â thâl un diwrnod yr wythnos
    • Gostyngiadau ar y stryd fawr
    • Trefniadau gweithio hyblyg a gweithio hybrid

    Canfuwch fwy am y cyfle hwn, a'r gofynion llawn ar ein tudalennau gyrfaoedd.