Archwilio Cymru yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod

08 Mawrth 2021
  • Mae heddiw'n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, digwyddiad byd-eang i ddathlu cyflawniadau rhyfeddol merched. Mae'r dathliad hefyd yn gyfle i dynnu sylw at yr anghydraddoldebau y mae menywod yn dal i'w hwynebu a sut y gall pobl gymryd rhan i sicrhau newid. Thema eleni yw #DewisHerio. Drwy herio'r rhagdybiaethau o ran rhywedd sy'n ein hwynebu ac rydyn ni’n eu gweld, rydym yn cymryd rhan weithredol a chadarnhaol yn y newid rydym am ei weld ar gyfer byd mwy cynhwysol.

    Er mwyn codi ymwybyddiaeth o ragdybiaethau ac anghydraddoldeb o ran rhywedd, trefnwyd sesiwn cinio a dysgu mewnol i drafod rhai o'r anghydraddoldebau y mae menywod yn eu hwynebu. Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, hoffem rannu rhywfaint o'r ymchwil a gynhyrchwyd gan fenywod ar draws Archwilio Cymru sy'n amlygu rhagdybiaethau o ran rhywedd.

    Beth yw rhagdybiaeth o ran rhywedd?

    Mae rhagdybiaethau o ran rhywedd yn cwmpasu cymaint mwy na'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau sy'n parhau i ffafrio dynion ac a oedd yn 11.6% yn 2020 ledled Cymru [agorir mewn ffenest newydd]. I'w roi mewn ffordd arall, y cyflog canolrif fesul awr i ddynion oedd £13.28 o'i gymharu ag £11.74 i fenywod.

    Mae rhagdybiaethau o ran rhywedd:

    • Yn gallu arwain at y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn mynd i gostau y gellir eu hosgoi
    • Yn creu annhegwch ynghylch pwy sy'n elwa o'r gwasanaethau hyn
    • Yn peryglu iechyd meddwl a chorfforol merched
    • Yn effeithio ar enillion merched ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ac ar ei phensiwn
    • Yn effeithio ar addysg a dewisiadau gyrfa merched

    Fel sefydliad, mae gennym fwy i'w wneud o hyd i leihau ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau ein hunain ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella. Yn Rhagfyr 2020 fe wnaethom gyhoeddi ein Hadroddiad Cydraddoldeb [agorir mewn ffenestr newydd] sy’n amlinellu ein hymrwymiadau i ddarparu gweithle sy’n gwerthfawrogi ein holl amrywiaeth.

    Sut ydym ni’n cymryd rhan yn Niwrnod Rhyngwladol y Merched?

    O ganlyniad i drafodaethau mewnol am ragdybiaethau o ran rhywedd a sut y gallwn wella mae rhai cydweithwyr wedi cynnal ymchwil ar y mater. Mae ein Swyddog Dadansoddi Data, Rachel Brown, wedi cynhyrchu ymchwil ar sut mae COVID-19 wedi effeithio'n anghymesur ar y gweithlu benywaidd. Gallwch ddod o hyd i'w hymchwil yn adran blogiau ein gwefan [yn agor mewn ffenestr newydd].

    Sut allwch chi gymryd rhan?

    I gael gwybod mwy am Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched a sut i gymryd rhan, ewch i wefan Diwrnod Rhyngwladol y Merched [agorir mewn ffenestr newydd]. Mae eu gwefan yn cynnwys nifer fawr o adnoddau ar hanes Diwrnod Rhyngwladol y Merched (oeddech chi'n gwybod bod y cyfarfod cyntaf wedi’i gynnal yn 1911?) a sut y gall pobl gymryd rhan. 

    Nid 'mater i fenywod' yw rhagdybiaethau o ran rhywedd – mae angen i ddynion a menywod wneud ein rhan i fynd i'r afael ag ef. Mae’r mudiad HeForShe [agorir mewn ffenestr newydd] yn annog dynion i ymrwymo i weithredu ar gyfer byd sy'n gyfartal o ran rhywedd.

    Fel unigolion a sefydliadau mae llawer y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â rhagdybiaethau o ran rhywedd gan gynnwys:

    • Gofyn am farn merched
    • Cydnabod rhagdybiaethau o ran rhywedd a cheisio ei ddileu
    • Gofyn am ddadansoddiad rhywedd ar ddata ymchwil a chwilio am ogwydd anymwybodol
    • Cydnabod a lleihau rhagfarn wrth recriwtio a chadw staff 
    • Pleidleisio/lobïo ar gyfer casglu data rhyw
    • Osgoi termau sy'n seiliedig ar rywedd fel 'bossy' a ‘gwichlyd’ ('shrill')
    • Cefnogi rhestrau byr 'menywod yn unig' a chynlluniau a gynlluniwyd i dargedu menywod i gynorthwyo cynrychiolaeth gynyddol

    Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched a #DewisHerio.