Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r Adroddiad Blynyddol yn dangos bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyflawni ei holl raglen waith ar gyfer 2018-19
Gallwch ddarllen yr uchafbwyntiau yn ein crynodeb digidol rhyngweithiol [agorir mewn ffenest newydd].
Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 wedi cael eu cyhoeddi bellach – y cyntaf ar gyfer ein Harchwilydd Cyffredinol newydd, Adrian Crompton.
Fe lwyddom ni i gyflawni’r holl raglen o archwiliadau a oedd wedi’i nodi yn ein Cynllun Blynyddol 2018-19 i safon ansawdd uchel. Mae detholiad o astudiaethau achos wedi cael ei gynnwys i roi mwy o ddealltwriaeth am rai o’r prosiectau yr ydym wedi bod yn rhan ohonynt, a’r effaith y mae ein gwaith wedi’i chael.
Dengys yr adroddiad ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran trawsnewid y ffordd yr ydym yn cyflawni ein rhaglen archwilio – trwy geisio cynyddu ein mewnwelediad unigryw i’r eithaf, adrodd ar y materion cywir ar yr adeg gywir ac ymgysylltu ag ystod ehangach o gynulleidfaoedd.
Bu’r 12 mis diwethaf yn flwyddyn o newid yn Swyddfa Archwilio Cymru, pan dreuliom ni amser yn ail-werthuso ein risgiau a’n blaenoriaethau allweddol ac yn diweddaru ein huchelgeisiau corfforaethol. Er gwaethaf hyn rydym wedi parhau i weithio’n ddygn i gyflawni ein hymrwymiadau parhaus i gynnal safonau uchel o ran llywodraethu corfforaethol, ceisio arbedion effeithlonrwydd pellach a gwneud gwaith sy’n ychwanegu gwerth.
Mae’r adroddiad yn darparu tystiolaeth bod ein cyllid a’n risgiau strategol wedi’u rheoli’n dda a’n bod wedi cyrraedd nifer o’r targedau heriol yr oeddem wedi’u gosod ar gyfer ein dangosyddion perfformiad allweddol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn nodi rhai meysydd pwysig lle mae angen i ni fyfyrio a gwneud gwelliannau pellach.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton:
“A hithau wedi bod y flwyddyn gyntaf i mi yn y swydd, mae’n wych gweld ein bod wedi llwyddo i gyflawni rhaglen o waith archwilio a oedd yn gynhyrchiol, yn broffesiynol ac o ansawdd da. Mae’n dda gennyf rannu nifer o astudiaethau achos arloesol sy’n amlygu’r cyfraniad sylweddol yr ydym yn ei wneud i’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladau ar fomentwm y rhain a rhyddhau ein potensial llawn fel ysgogydd newid a gwelliant.”
Meddai Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, Isobel Everett:
“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld proses bontio lwyddiannus yn Swyddfa Archwilio Cymru lle’r ydym wedi croesawu Adrian fel yr Archwilydd Cyffredinol newydd. Mae’r Bwrdd wedi parhau i ddarparu trosolwg cryf ar yr agweddau strategol a gweithredol ar y busnes a chefnogi’r Archwilydd Cyffredinol yn ei rôl. Mae ein ffocws bellach ar barhau i addasu a gwella, a gwireddu’r uchelgeisiau a nodir yn ein Cynllun Blynyddol newydd.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion: