Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Blwyddyn gynhyrchiol i archwilio cyhoeddus yng Nghymru yn wyneb pandemig byd-eang

29 June 2021
  • Er gwaethaf rhai newidiadau sylweddol i'n gwaith arfaethedig oherwydd COVID-19, gwnaethom gyflwyno rhaglen archwilio lawn yn llwyddiannus yn 2020-21.

    Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21 bellach wedi'u cyhoeddi.

    Ochr yn ochr â'n datganiadau ariannol a’n datganiad atebolrwydd, mae'r Adroddiad yn rhoi crynodeb o'r newidiadau a wnaed i'r rhaglenni gwaith gwreiddiol a nodir yn ein Cynllun Blynyddol mewn ymateb i bandemig COVID-19, a'r cynnydd a wnaethom o ran cyflawni'r cynlluniau addasedig hynny.

    Mae detholiad o astudiaethau achos wedi'u cynnwys i roi mwy o fewnwelediad i rai o'r prosiectau yr ydym wedi bod yn ymwneud â nhw a'r cyfraniad y mae’r gwaith wedi'i wneud.

    Rydym hefyd yn darparu naratif ar sut y gwnaethom ddefnyddio ein hadnoddau yn 2020-21, ac ar y cynnydd a wnaethom tuag at gyflawni'r targedau dangosyddion perfformiad allweddol a nodir yn ein Cynllun.

    ,
    Rydym yn falch o adrodd ein bod wedi cyflwyno ein rhaglen lawn o waith archwilio cyfrifon yn 2020-21. Mae ein llwyddiant wrth barhau i ddarparu archwiliadau amserol ac o ansawdd da yn adlewyrchu ymdrech fawr ar y cyd gan ein staff a'n swyddogion cyrff cyhoeddus i groesawu ffyrdd newydd o weithio a pharhau i fod yn hyblyg ac yn ystyriol o'r materion niferus sy'n codi. Mae ein rhaglen astudiaethau cenedlaethol bob amser wedi cadw rhywfaint o hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau sy'n newid. Nid yw'n syndod ein bod wedi arfer yr hyblygrwydd hwnnw dros y flwyddyn ddiwethaf yn fwy nag erioed o'r blaen. Gwnaethom gyhoeddi sawl adroddiad yn canolbwyntio'n benodol ar ymateb COVID-19 a gwnaethom ail-lunio llawer o'n gwaith arfaethedig er mwyn ei gynnwys yn y cyd-destun hwn. Ar lefel leol, gwnaethom ail-lunio ein cynlluniau archwilio llywodraethu a gwerth am arian yn sylweddol mewn cyrff GIG a llywodraeth leol unigol er mwyn canolbwyntio ar faterion a oedd fwyaf perthnasol i'r sefyllfa sy'n esblygu. Rwyf yn ddiolchgar iawn i holl staff Archwilio Cymru am eu proffesiynoldeb, eu gwaith caled a'u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus drwy'r cyfnod heriol hwn. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,
    Rwy'n talu teyrnged i'n staff am eu holl waith caled a'u hymrwymiad drwy gydol y flwyddyn. Yn yr Adroddiad hwn rydym yn dathlu ein cyflawniadau, sy’n niferus, ond yn nodi rhai meysydd pwysig lle mae angen i ni adlewyrchu a gwneud rhagor o welliannau. Wrth edrych i'r dyfodol byddwn yn parhau i flaenoriaethu cefnogaeth barhaus i iechyd a lles staff Archwilio Cymru wrth i ni symud o ddull 'ymateb' i ddull 'adfer' o ran pandemig COVID-19. Wrth lunio ein ffordd newydd o weithio ar gyfer y dyfodol, byddwn yn adeiladu ar yr addasiadau a amlinellir yn yr Adroddiad hwn, er mwyn nodi a chadw rhai o'r newidiadau cadarnhaol a welsom yn ystod y pandemig. Lindsay Foyster, Cadeirydd y Bwrdd
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Paratowyd yr Adroddiad Blynyddol hwn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021, ac fe'i gosodir gerbron y Senedd, ar y cyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol ag Atodlen 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ac sy'n cynnwys materion yn unol â chyfarwyddyd y Trysorlys.
    • Mae'r Adroddiad Blynyddol yn dangos, yn ystod 2020-21:
      • bod arfer swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru wedi bod yn weddol gyson â'r Cynllun Blynyddol a baratowyd ar gyfer y flwyddyn o dan adran 25 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ond gyda rhai newidiadau sylweddol wedi'u gwneud i waith a gynlluniwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19; a
      • bod y blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun ar gyfer 2020-21 wedi'u cyflawni'n sylweddol.
    • Paratowyd y Cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol ag Atodlen 1 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ac ar ffurf a gyfarwyddwyd gan y Trysorlys.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am yr archwiliad blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £21 biliwn o arian y pleidleisir arno'n flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o'r arian hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol o'r pwys mwyaf. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na'r llywodraeth.
    • Mae Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod sy'n cyflogi staff ac sy'n darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol ynghylch arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw enw ambarél Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw'n endid cyfreithiol ynddo'i hun.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21

    View more