Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud cynnydd i symud ymlaen o’r camweithrediad a ganfuwyd o fewn ei fwrdd flwyddyn yn ôl

15 Chwefror 2024
  • Ar ôl cyfnod o amhariad sylweddol yn ystod 2023, mae'r bwrdd mewn sefyllfa fwy sefydlog ac mae perthnasoedd gwaith ymhlith uwch arweinwyr yn fwy cadarnhaol yn gyffredinol.

    Fodd bynnag, mae heriau sylfaenol o hyd i fynd i'r afael â nhw, gan gynnwys adeiladu tîm gweithredol sy'n cyflawni'n dda, recriwtio yn barhaol i’r swyddi sy'n weddill ar y bwrdd, a sicrhau bod y bwrdd newydd yn dangos yr arweinyddiaeth unedig ac effeithiol sydd ei hangen i fynd i'r afael â'r heriau y mae'r sefydliad yn eu hwynebu.

    Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad er budd y cyhoedd a oedd yn disgrifio lefel bryderus o gamweithrediad o fewn y bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Amlygodd yr adroddiad yr angen am weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â'r berthynas waith sydd wedi torri rhwng uwch arweinwyr y bwrdd iechyd a oedd yn peryglu gallu'r bwrdd i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol y mae'r sefydliad yn eu hwynebu.

    Yn dilyn newidiadau sylweddol i aelodaeth y bwrdd dros y 12 mis diwethaf, a chyfnod o chwyldro a chorddi, mae'r adroddiad dilynol yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn disgrifio bwrdd sydd bellach yn fwy sefydlog.

    Nid yw'r camweithrediad a ddisgrifiwyd gennym yn ein hadroddiad blaenorol bellach yn bresennol, ac mae Cadeirydd a Phrif Weithredwr parhaol newydd yn darparu arweinyddiaeth o’r newydd gyda phwyslais ar fynd i'r afael â heriau'r sefydliad. Mae dibyniaeth ar benodiadau dros dro i rolau uwch yn lleihau ac mae camau'n cael eu cymryd i gryfhau trefniadau arweinyddiaeth llywodraethu gorfforaethol.

    Fodd bynnag, mae angen gweithredu pellach mewn nifer o feysydd o hyd. Rhaid parhau â’r gwaith o adeiladu tîm gweithredol cydlynol sy'n cyflawni'n dda a symud cyn gynted â phosibl i sefyllfa lle mae gan y bwrdd gyflenwad llawn o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol parhaol.

    Mae angen ailadeiladu strwythurau llywodraethu a gafodd eu hatal yn 2023 yn dilyn ymddiswyddiad yr aelodau annibynnol blaenorol ac mae angen datrys y materion a arweiniodd at waharddiad dros dro y staff yn y tîm cyllid.

    Yn allweddol, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at yr angen i'r sefydliad ddatblygu ei gapasiti mewnol a'i gydnerthedd i gynnal gwelliant heb fod angen cymorth allanol parhaus.

    ,
    Mae'n galonogol gweld nad yw'r camweithrediad o fewn uwch arweinyddiaeth y bwrdd iechyd a ddisgrifiwyd gennym y llynedd bellach yn bresennol. Erbyn hyn mae angen i'r bwrdd ategu’r cynnydd hwn a darparu'r arweinyddiaeth sefydliadol unedig sydd ei hangen i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol a pharhaus sy'n wynebu'r bwrdd iechyd. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Adroddiad Dilynol ar Effeithiolrwydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    View more