Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Bydd ein rhaglen archwilio yn canolbwyntio ar rai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru

03 Ebrill 2023
  • Gyda chyllid cyhoeddus dan straen sylweddol, mae gwerth ein gwaith yn bwysicach nag erioed

    Mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Blynyddol ar gyfer 2023-24 sy'n amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf.

    Mae gwerth archwiliad cyhoeddus mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym, yn hanfodol er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, gwleidyddion, y rhai sy'n, gwneud penderfyniadau a dylanwadwyr ynghylch a yw arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach mewn cyfnodau pan mae'r pŵer gwariant cyhoeddus wedi'i erydu ac mae cyllid o dan y fath straen. Bydd ein rhaglen archwilio yn canolbwyntio ar rai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru.

    Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth pum mlynedd, sy'n darparu'r cyd-destun ar gyfer y Cynllun Blynyddol hwn ac yn nodi ein rhaglen waith yn ystod yr ail flwyddyn o gyflwyno ein strategaeth, gan ganolbwyntio ar dri maes allweddol:

    • Rhaglen archwilio strategol, ddeinamig ac o ansawdd uchel;
    • datblygu dull wedi'i dargedu ac effeithiol o ran cyfathrebu a dylanwadu
    • model diwylliant a gweithredu sy'n ein galluogi i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.

    Mae ein Cynllun Blynyddol, yn ogystal â gosod ein rhaglen waith ar gyfer 2023-24, hefyd yn tynnu sylw at sawl maes blaenoriaeth a fydd yn cefnogi ein gwaith archwilio a rhedeg y busnes, sut rydym yn bwriadu eu cyflawni a'r hyn y byddwn yn ei wneud i wella ein dull o fonitro perfformiad.

    ,
    Gyda chyllid cyhoeddus dan straen o'r fath, mae ein gwaith craidd yn archwilio datganiadau ariannol cyrff cyhoeddus, gan ddarparu sicrwydd, tryloywder ac atebolrwydd i drethdalwyr, y Senedd a chynrychiolwyr etholedig eraill yn bwysicach nag erioed. Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd ein hymgyrch i wella ansawdd ein gwaith yn ein gweld yn gwreiddio safonau rhyngwladol newydd ar gyfer archwilio ariannol a pherfformiad..." Byddwn hefyd yn gobeithio cynyddu effaith ein harchwiliadau gyda rhaglen waith yn canolbwyntio ar bedair thema - mynd i'r afael ag anghydraddoldeb; ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur; gwytnwch gwasanaeth a mynediad; a gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu rheoli'n dda. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,
    Yn fy mlwyddyn gyntaf fel Cadeirydd y bwrdd, rwy'n ymwybodol nad yw Archwilio Cymru'n imiwn i'r pwysau ariannol sy'n wynebu gweddill y sector cyhoeddus. Rydym yn cynnal adolygiad cynaliadwyedd ariannol i sicrhau bod y busnes yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol bosibl. Bydd ein prosiect Ffyrdd o Weithio yn y Dyfodol yn ein gweld yn dechrau'r flwyddyn mewn mangre lai, fwy ynni-effeithlon, a hygyrch yng Nghaerdydd Byddwn yn parhau i asesu sut mae ein hasedau ledled Cymru yn ein galluogi i gyflawni ein gwaith archwilio gorau gan hefyd wneud cyfraniad sylweddol at ein huchelgeisiau sero net. Ni fydd yr un o'r hyn yr ydym yn anelu at ei gyflawni dros y flwyddyn i ddod yn bosibl heb ein timau medrus a brwdfrydig iawn a bydd cefnogi eu lles yn parhau, felly, ein blaenoriaeth uchaf gan ei fod yn sail i'r cyfan a wnawn. Kathryn Chamberlain, Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cynllun Blynyddol 2023-24

    View more