Ceisiadau Hyfforddeion Graddedig nawr ar agor

02 Tachwedd 2021
  • Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais

    Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer ein cynllun Hyfforddeion Graddedig bellach ar agor.

    Os ydych yn chwilio am yrfa sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau Cymru a gyrfa lle gallwch ddysgu a datblygu, parhewch i ddarllen i gael gwybod mwy am ein rhaglen Hyfforddeion Graddedig.

    Mwy am y rhaglen

    Mae ein rhaglen i raddedigion yn ymarferol.

    Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster cyfrifeg ac yn cael eich cefnogi mewn rhaglen ddysgu a datblygu lawn.

    Byddwch yn cyflawni amrywiaeth o waith cyfrifon ariannol i wirio bod data'n gywir ac yn amlygu a chwestiynu unrhyw anghywirdebau drwy gyswllt rheolaidd â thimau Cyllid a gweithwyr proffesiynol eraill.

    Byddwch hefyd yn ymwneud â gwaith ardystio grantiau, dadansoddeg data, llywodraethu a gwaith gwerth am arian.

    Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid, gan gynnwys:

    • Llywodraeth Cymru a chyrff cysylltiedig a noddir
    • Byrddau iechyd
    • Awdurdodau lleol
    • Gwasanaethau Heddlu/ Tân ac Achub

    Rydym yn deall pa mor anodd y gall astudio fod, ond cewch eich cefnogi drwy gydol y rhaglen gyfan. Byddwch yn astudio gyda gweddill eich carfan, gan eich galluogi i feithrin perthnasoedd a chael dysgu o’ch cyfoedion. 

    Am bwy rydyn ni’n chwilio

    A ydych yn gweld eich hun fel arweinydd cyllid y dyfodol o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru? Yna efallai mai dyma'r rhaglen i chi!

    Rydym yn chwilio am unigolion sy'n naturiol chwilfrydig, sydd â'r hyder i herio eu hunain a'u gwaith, bod yn broffesiynol ac sydd â chefndir academaidd cryf.

    Rydym yn ymfalchïo yn yr hyn a wnawn ac rydym yn sylweddoli, er mwyn gwneud ein gwaith gorau, fod cydweithio mewn tîm yn allweddol. Rydym wedi adeiladu diwylliant lle mae dysgu a datblygu yn flaenoriaeth, ac wedi creu lle diogel lle gall pawb ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol. O ystyried hyn, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu dangos ethos gweithio mewn tîm a'r awydd am ddatblygiad parhaus.

    Yn Archwilio Cymru, rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y Gymraeg yn ein gwaith ac yn anelu at ddarparu gwasanaeth dwyieithog i bawb sy’n dymuno’i ddefnyddio.

    Felly, hoffem yn arbennig annog ceisiadau gan unigolion sydd â sgiliau yn y Gymraeg i’n helpu i gyrraedd y nod hwn. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn, ond bydd nifer ohonynt yn hanfodol bod gennych sgiliau Cymraeg.

    Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bwy rydym yn chwilio amdanynt a'r cymwysterau academaidd sydd eu hangen yn ein disgrifiad swydd.

    Pam Archwilio Cymru

    Rydym yn buddsoddi yn nyfodol ein graddedigion a dyna pam rydym yn talu holl gostau aelodaeth myfyrwyr ICAEW, hyfforddiant, costau arholiadau a deunyddiau astudio. Gyda chyfradd pasio arholiadau sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ICAEW, byddwch yn ymuno â rhaglen o'r radd flaenaf.

    Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn angerddol am sicrhau bod gan ein Hyfforddeion Graddedig yrfaoedd hir a llwyddiannus, a dyna pam bod ein rhaglen hefyd yn cael ei hategu gan arweinyddiaeth, meddwl yn feirniadol a dysgu deallusrwydd emosiynol, gan arwain at ddyfarniad Lefel 3 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

    Rydym yn cynnig y cyfle unigryw i ymgymryd â secondiad gyda chorff sector cyhoeddus arall, gan roi cyfle i chi brofi diwylliant sefydliadau eraill, a datblygu sgiliau cyllid ochr yn ochr â'ch sgiliau archwilio.

    Byddwch hefyd yn derbyn pecyn buddion hael iawn.

    Sut i wneud cais

    Os ydych mor gyffrous am y rhaglen hon â ni, gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano a sut i wneud cais ar ein tudalen Hyfforddeion Graddedig.

    Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen hon yn cau ar 23 Ionawr.