Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Chwarae ein rhan yn yr ymateb i newid yn yr hinsawdd

03 Tachwedd 2021
  • Rydym yn cyflymu ein gwaith

    Gydag arweinwyr y byd yn ymgynnull yn Glasgow ar gyfer COP26 yr wythnos hon, rydym yn cyflymu ein gwaith, gyda'r nod o graffu ac ysbrydoli gwelliant mewn gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

    Heddiw, rydym wedi lansio galwad am dystiolaeth mewn tua 50 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru i ofyn am yr hyn y maent yn ei wneud i leihau allyriadau carbon a chyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus carbon niwtral yn 2030.

    ,
    Mae gan gyrff cyhoeddus swydd allweddol i'w chwarae... Yn ogystal â lleihau eu hallyriadau eu hunain, gallant arwain drwy esiampl yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Darllenwch y diweddaraf yn ein cynlluniau a'n hymrwymiadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei flog diweddaraf ar ein gwaith ar newid yn yr hinsawdd.

    ,