Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
A threfniadau gwell i gyflawni ei flaenoriaethau
Ar hyn o bryd ni all Cyngor Sir Penfro ddarparu sicrwydd digonol fod ei drefniadau'n alluog i gyflawni ei flaenoriaethau a chanlyniadau gwell i ddinasyddion. Dyma yw casgliad cyffredinol adroddiad asesu corfforaethol a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol heddiw.
Mae'r Cyngor wedi dechrau datblygu egwyddorion sefydliadol a strategaeth gorfforaethol newydd, gan ei fod yn cydnabod yr angen am newid sylfaenol mewn diwylliant ac ymagwedd strategol newydd er mwyn cyflawni ei flaenoriaethau gwasanaeth o fewn y cyfyngiadau ariannol mae'n eu hwynebu. Mae'r Cyngor wedi penodi'r ymgynghorwyr PricewaterhouseCoopers (PwC) i ddarparu'r capasiti a'r arbenigedd ychwanegol y mae eu hangen ar y Cyngor er mwyn rhoi agenda drawsnewid ar waith.
Mae diffyg eglurder mewn perthynas â chyfrifoldebau a rolau llywodraethu allweddol yn y Cyngor yn gwanhau atebolrwydd, ac mae rhai agweddau ar y trefniadau llywodraethu sy'n bodoli nad ydynt yn ategu tryloywder cyson wrth wneud penderfyniadau. Ar hyn o bryd nid oes trefniadau effeithiol ar waith er mwyn helpu i nodi'r gwendidau hyn a mynd i'r afael â hwy.
Mae'r Cyngor yn gweithio'n rhagweithiol gyda'i bartneriaid strategol er mwyn darparu canlyniadau gwell i ddinasyddion yn Sir Benfro, ac mae wrthi'n monitro perfformiad y partneriaethau hyn er mwyn gwerthuso'r cynnydd o ran y blaenoriaethau a bennwyd yng Nghynllun Integredig Sengl y Sir. Mae partneriaid yn fwy cadarnhaol ynghylch cydweithio yn y dyfodol wrth iddynt sylwi ar newid o ran diwylliant a diffuantrwydd yn y Cyngor.
Mae cryn le gan y Cyngor i wella ei drefniadau o ran penderfyniadau, rheoli, a chynllunio ariannol os yw am fynd i'r afael â'r heriau ariannol y mae'n eu hwynebu yn 2015-16 a'r tu hwnt. Mae angen i'r Cyngor wella ei ffocws ar ei swyddogaethau corfforaethol strategol allweddol os yw'n mynd i fod yn hyderus ei fod yn gwneud y defnydd gorau o'i adnoddau.
Mae'r Cyngor yn adolygu ac yn atgyfnerthu ei drefniadau rheoli risg a chynllunio gwelliant, ac mae llwyddo i wella mewn rhai meysydd blaenoriaeth allweddol yn cynnwys rheoli gwastraff, iechyd yr amgylchedd, diogelu, y gwasanaethau cymdeithasol ac addysg. O gymharu â'r flwyddyn flaenorol ac o gymharu â chynghorau eraill Cymru, mae'r Cyngor wedi gwella ei berfformiad cyffredinol.
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gwneud argymhelliad statudol fod y Cyngor yn datblygu cynllun strategol sy'n pennu gweledigaeth glir ar gyfer darparu ei wasanaethau yn y dyfodol, a hynny o fewn y cyfyngiadau ariannol a wynebir ganddo yn y tymor canolig. Yn ogystal, mae'n ofynnol i'r Cyngor lunio cynllun gweithredu er mwyn rhoi sylw i'r gwendidau o ran ei drefniadau sydd wedi'u nodi yn yr Adroddiad Asesu Corfforaethol.
Heddiw dywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
‘Mae ymdeimlad cynyddol yng Nghyngor Sir Penfro o gyfleoedd ynghyd â disgwyliad o gyfeiriad newydd a diwylliant sefydliadol gwell. Bellach mae angen i'r Cyngor ganolbwyntio ar roi trefniadau pendant ar waith a fydd yn ei helpu i gyflawni ei flaenoriaethau a chanlyniadau gwell ar gyfer dinasyddion Sir Benfro.’