Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cynhadledd Dyfodol Diamod 2021 – gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod o argyfwng

17 Ionawr 2022
  • Ar 16 Rhagfyr 2021, cynhaliodd y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid eu pumed cynhadledd Dyfodol Diamod, gan archwilio thema Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Cyfnod o Argyfwng.

    Gyda phethau ychydig yn wahanol eleni oherwydd ei bod ar-lein, rydym wrth ein bodd yr aeth mor ddidrafferth ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol hyd yn hyn!

    Yn ystod y gynhadledd, clywsom gan lawer o siaradwyr ysbrydoledig o bob rhan o'r sector cyhoeddus. Ochr yn ochr â rhai straeon, mewnwelediadau a gwersi rhyfeddol a ddysgwyd o bandemig COVID-19, roedd rhai themâu allweddol yn torri drwodd.

    Roedd ein holl siaradwyr yn myfyrio ar y ddwy flynedd anodd y mae'r cyhoedd, a'r sector cyhoeddus, wedi'u hwynebu a'r heriau y bu'n rhaid iddo eu goresgyn. Clywsom pa mor bwysig fu cydweithio a dysgu a rennir er mwyn goresgyn yr heriau parhaus hyn a'r angen i gyrff y sector cyhoeddus ddatblygu perthnasoedd ymddiriedus tra'n gweithio tuag at ddiben cyffredin. Nodwyd bod gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol ar gyfer adeiladu Cymru decach a gwyrddach.

    Mae'r sector cyhoeddus yn wynebu ffordd heriol o'i flaen, gyda phwysau cyllidebol eithafol, bygythiad parhaus y pandemig ac adferiad y wlad a'r newid yn yr hinsawdd ymysg dim ond rhai o'r materion o dan sylw. Fodd bynnag, roedd yn galonogol clywed bod ein siaradwyr yn parhau i fod yn obeithiol ynghylch dod o hyd i atebion arloesol i'r problemau hyn a bod optimistiaeth i'w chael yn wyneb adfyd.

    Clywsom am y rhan hanfodol y mae gweithwyr cyllid proffesiynol wedi'i chwarae – a byddwn yn parhau i'w chwarae – wrth wella'r sector cyhoeddus, gyda blaengynllunio, dyrannu adnoddau, gwariant effeithlon a gwaith cyfrifo yn chwarae rhan enfawr yn yr atebion i’r heriau y maent wedi'u hwynebu ac yn parhau i'w hwynebu. Er mwyn llywio'r ffordd anodd sydd o'n blaenau, clywsom sut mae angen i arweinwyr cyllid yn y dyfodol addasu ac esblygu wrth i waith ariannol ddod yn fwyfwy seiliedig ar ddata.

    Roedd lles yn ffocws mawr yn ystod y gynhadledd, gyda siaradwyr yn tynnu sylw at yr angen i weithleoedd ymarfer empathi a bod yn agored, tra'n cadw ymdeimlad o hwyl.

    Hoffai'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid ddiolch i'n holl siaradwyr a'n cynrychiolwyr am roi o'u hamser gwerthfawr i ymuno â'n cynhadledd. Gobeithiwn i bawb ei fwynhau gymaint ag y gwnaethom ni!