Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cyrff y GIG yn cynnal llywodraethu da yn ystod argyfwng COVID-19

18 Ionawr 2021
  • Mae cyrff y GIG yng Nghymru wedi cynnal llywodraethu da i raddau helaeth drwy gydol yr argyfwng, gyda threfniadau diwygiedig yn eu galluogi i lywodraethu mewn modd darbodus, hyblyg a thrylwyr

    Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut mae cyrff y GIG yng Nghymru wedi llywodraethu yn ystod argyfwng COVID-19. Yn ystod yr argyfwng bu'n rhaid i holl gyrff y GIG gynllunio'n wahanol, gweithredu'n wahanol, rheoli eu hadnoddau'n wahanol, a llywodraethu'n wahanol i ddelio â'r heriau a'r pwysau digynsail a gyflwynir gan y pandemig.

    Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o ddau gyhoeddiad sy'n rhoi crynodeb Cymru gyfan o waith asesu strwythuredig yr Archwilydd Cyffredinol yn 2020 yng nghyrff y GIG. Byddant yn amlygu themâu allweddol, yn nodi cyfleoedd yn y dyfodol, ac yn rhannu dysgu.

    Yn yr adroddiad hwn rydym yn rhoi sylwadau ar sut y mae cyrff y GIG wedi addasu eu trefniadau llywodraethu i ymdopi â'r heriau digynsail a gyflwynir gan y pandemig. Gwelsom fod holl gyrff y GIG yn gweithredu'n effeithiol gydag ymdeimlad o frys a phwrpas cyffredin i fabwysiadu ffyrdd darbodus a hyblyg o weithio a thrawsnewid yn gyflym tra'n parhau i ganolbwyntio'n glir ar feysydd craidd busnes a llywodraethu.

    Drwy fabwysiadu ffyrdd darbodus a hyblyg o weithio, mae cyrff y GIG wedi gallu:

    • cynnal cyfarfodydd bwrdd a chyfarfodydd pwyllgor mwy effeithiol ac effeithlon;
    • sicrhau ffocws clir ar risgiau a materion hanfodol sy'n gysylltiedig â busnesau a COVID-19;
    • parhau i fod yn agored ac yn dryloyw drwy gynnal cyfarfodydd ar-lein;
    • sicrhau ymgysylltiad effeithiol â'r cyhoedd a'u partneriaid; a
    • gwneud penderfyniadau'n gyflymach.

    Wrth i gyrff y GIG symud tuag at gyfnod o adfer llawn ac i fyd ôl-bandemig, dylent geisio myfyrio ar eu profiadau o lywodraethu yn ystod yr argyfwng.

    O ran llywodraethu'n benodol, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at nifer o gyfleoedd ar gyfer y dyfodol:

    • Cyfarfodydd rhithiol - Dylai cyrff y GIG ystyried cynnal cyfarfodydd rhithiol ar ryw ffurf gan eu bod wedi profi'n ffordd effeithlon ac effeithiol o weithio ac maent hefyd wedi galluogi byrddau a phwyllgorau i barhau i fod, ac mewn rhai ffyrdd, gwella pa mor agored a thryloyw ydynt.
    • Cyfarfodydd effeithiol ac effeithlon - Dylai cyrff y GIG ystyried cadw a mireinio rhai o'u ffyrdd newydd o weithio er mwyn sicrhau bod cyfarfodydd yn parhau i fod mor effeithiol ac effeithlon â phosibl mewn byd ôl-bandemig.
    • Gwneud penderfyniadau ystwyth - dylai cyrff y GIG ystyried cadw a mireinio dulliau hyblyg o wneud penderfyniadau er mwyn galluogi a hwyluso arloesedd, trawsnewid a dysgu yn barhaus mewn byd ôl-bandemig. 
    • Ail-lunio strategaeth – Dylai cyrff y GIG ystyried adolygu ac ail-lunio eu gweledigaeth a'u blaenoriaethau er mwyn sicrhau eu bod yn briodol ar gyfer byd ôl-bandemig.
    • Sicrwydd penodol, wedi'i dargedu ac sy’n integredig - Dylai cyrff y GIG ystyried ailgynllunio eu strwythurau llywodraethu ac adeiladu ar y trefniadau presennol i roi sicrwydd mwy integredig i'w byrddau a'u pwyllgorau yn y dyfodol.
    • Gwell cyfathrebu – Dylai cyrff y GIG ystyried cynnal a gwella, lle y bo'n bosibl, dulliau newydd o gyfathrebu a gyflwynwyd yn ystod y pandemig er mwyn parhau i gydweithredu, gweithio mewn partneriaeth, ac ymgysylltu â'r cyhoedd yn y byd ôl-bandemig.
    ,
    Ar adegau o argyfwng, yr her i bob corff cyhoeddus yw addasu eu systemau, eu prosesau a'u strwythurau llywodraethu er mwyn sicrhau bod llywodraethu da yn cael ei gynnal. Yn wir, gellid dadlau bod cynnal llywodraethu da yn fwy angenrheidiol nag erioed yn ystod cyfnod o argyfwng.  Dwi wedi cael sicrwydd bod cyrff y GIG wedi cynnal llywodraethu da i raddau helaeth drwy gydol yr argyfwng, gyda threfniadau diwygiedig yn eu galluogi i lywodraethu mewn modd darbodus, hyblyg a thrylwyr. Yr her yn awr i bob corff unigol yw gwerthuso eu ffyrdd newydd o weithio'n llawn, ystyried y cyfleoedd a amlinellir yn yr adroddiad hwn, a chynnal yr ymdeimlad o frys a phwrpas cyffredin a grëwyd yn ystod yr argyfwng i ymsefydlu dulliau newydd o lywodraethu mewn byd ôl-bandemig. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut mae cyrff y GIG wedi llywodraethu yn ystod argyfwng COVID-19.
    • Bydd ein hail adroddiad yn canolbwyntio ar sut mae cyrff y GIG wedi cefnogi iechyd a lles eu staff yn ystod y pandemig, gyda phwyslais arbennig ar y trefniadau y maent wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu staff sydd mewn mwy o berygl o COVID-19.
    • Cafodd ein gwaith asesu strwythuredig eleni ei ddylunio a'i gynnal yng nghyd-destun y pandemig parhaus. O ganlyniad, cawsom gyfle unigryw i weld sut mae cyrff y GIG wedi bod yn addasu ac yn ymateb i'r heriau a'r pwysau niferus sydd wedi dod yn sgil argyfwng COVID-19.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am yr archwiliad blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys yr £20 biliwn o arian y pleidleisir arno'n flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o'r arian hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na'r llywodraeth. 
    • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol o naw aelod sy'n cyflogi staff ac sy'n darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol wrth iddo arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw enw ymbarél Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw'n endid cyfreithiol ynddo'i hun.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Ei Wneud yn Wahanol, Ei Wneud yn Iawn?

    Gweld mwy