Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Yn gynharach eleni fe wnaethom lansio ymgynghoriad ar raglen waith yr Archwilydd Cyffredinol.
Rydym yn defnyddio'r ymgynghoriad i helpu i gynllunio rhaglen waith tymor canolig dangosol, gan gynnwys gwaith newydd fydd yn symud ymlaen drwy weddill 2022-23. Ochr yn ochr ag ymgynghoriad y rhaglen waith, roeddem hefyd yn datblygu ein strategaeth newydd pum mlynedd a gyhoeddwyd gennym ddiwedd Mehefin 2022.
Yn ystod y cyfnod rhwng dechrau mis Mawrth a chanol mis Mai, cawsom/casglom 47 o ymatebion i'n hymgynghoriad rhaglen waith. O'r rhain, yr oedd:
Roedd yr adborth ar y cynigion a nodwyd yn ein dogfen ymgynghori ar y cyfan yn gadarnhaol, gyda chefnogaeth a fynegwyd i lawer o'r meysydd gwaith posibl a nodwyd er bod amrywiaeth eang yn y pynciau penodol y dewisodd ymatebwyr unigol roi sylwadau arnynt. Yn ddealladwy, mynegodd rhai ymatebwyr awydd i ddeall mwy am gwmpas ac amseriad tebygol unrhyw waith yn y dyfodol ac i ni ystyried unrhyw ddyblygu gyda gwaith cyrff adolygu allanol eraill.
Pan lansiwyd ein hymgynghoriad rhaglen waith, dim ond dechrau dod i'r amlwg oedd effaith y gwrthdaro yn Wcráin a phwysau costau byw ac fe wnaeth rhai ymatebion dynnu sylw at y materion hyn. Bydd ein hastudiaeth llywodraeth leol ar fynd i'r afael â thlodi, a fydd yn adrodd nes ymlaen eleni, yn rhoi cyfle i rywfaint o adlewyrchu cychwynnol ar bwysau costau byw. Rydym hefyd yn ystyried y ffordd orau o bosibl inni daflu lens archwilio ar ymateb gwasanaethau cyhoeddus datganoledig i anghenion ffoaduriaid Wcreinaidd.
Roedd rhai o'r ymatebion a gawsom yn amlygu pynciau yr ydym wedi adrodd arnynt mewn blynyddoedd blaenorol, neu lle roedd gennym waith ychwanegol ar y gweill, er enghraifft o amgylch seibergadernid gwasanaethau cyhoeddus ac ar yr agenda ddigidol yn fwy cyffredinol yn y GIG. Rydym yn cyflwyno trefniadau mwy systematig i ystyried rhinweddau gwaith dilynol mewn meysydd a gwmpaswyd gan adroddiadau blaenorol. Disgwyliwn y bydd hyn yn arwain at sylwebaeth ddilynol fwy rheolaidd yn y blynyddoedd i ddod, er o bosib mewn amrywiaeth o ffurfiau.
Mynegodd yr ymatebion a gawsom gan y rhai oedd yn gweithio ym maes rheoli adeiladau bryder penodol ynghylch goblygiadau awdurdodau lleol o ran Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 Llywodraeth y DU ac am gapasiti o fewn y sector. Wedi'n llywio gan yr ymatebion hynny, rydym eisoes yn bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith ar y pwnc hwn yn ystod gweddill eleni. Rydym hefyd wedi bwrw ymlaen â gwaith i archwilio datblygiad cynnar Cyd-bwyllgorau Corfforaethol ac ar lywodraethu a goruchwylio Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, byddwn yn bwrw ymlaen â gwaith ar draws y 22 prif gyngor yng Nghymru yn ystyried eu hagwedd strategol tuag at ddigideiddio gwasanaethau.
Byddwn yn nodi manylion manylach am raglen waith tymor canolig yr Archwilydd Cyffredinol maes o law. Bydd ymateb i'n hymgynghoriad diweddar ar raddfeydd ffioedd 2023-24 hefyd yn dylanwadu ar siâp y rhaglen waith a newidiadau all lifo ohono. Yn yr ymgynghoriad hwnnw, rydym yn nodi cynigion i newid y ffordd y mae peth o'n gwaith yn cael ei ariannu, a gyda'r bwriad o wneud hyn gan alluogi gwell hyblygrwydd i archwilio materion mwy trawsbynciol a system gyfan. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio ymgynghoriad ar ymestyn y sylw i'r ddyletswydd llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 [agorir mewn ffenest newydd], sydd â goblygiadau posib o ran dyluniad rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol.