Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Rydym yn edrych am Rheolwr Archwilio ac Archwilydd Arweiniol
Mae Archwilio Cymru wrthi’n recriwtio ar gyfer Rheolwr Archwilio parhaol yn ein Tîm Archwilio Ariannol ac ar gyfer Arweinydd Archwilio parhaol yn ein Tîm Archwilio yn y Gogledd.
Mae’r swydd gyntaf yn un lle mae’r Gymraeg yn hanfodol. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fuddiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer yr ail swydd.
Dewch i weithio gyda ni a chynnal archwiliadau ac helpu i graffu ar wasanaethau cyhoeddus, a’u gwella.
Mae rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gael yma (Rheolwr Archwilio) [agorir mewn ffenestr newydd] ac yma (Arweinydd Archwilio) [agorir mewn ffenestr newydd].
Mae Archwilio Cymru’n gyflogwr hyblyg, ac rydym yn annog gweithio’n glyfrach.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.