Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Swyddfa Archwilio Cymru yn lansio astudiaeth bwysig o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd ac yn gofyn am farn y cyhoedd
Caiff pobl yng Nghymru eu hannog i gwblhau arolwg byr i helpu astudiaeth newydd bwysig o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, sy'n cael ei lansio gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa mor dda y mae cynghorau lleol yn darparu'r gwasanaethau eang sy'n perthyn i gategori iechyd yr amgylchedd. Mae'r gwasanaethau hynny'n cynnwys:
Mae tîm yr adolygiad am glywed gan bobl sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau hyn, er mwyn darganfod sut brofiad a gawsant; pa mor effeithiol yr oedd eu cyngor wrth ymdrin â'u problem; ac i ba raddau y maent yn ymwybodol o newidiadau i'r gwasanaethau hyn, a achosir gan ostyngiadau yn yr arian sydd gan gynghorau i'w wario ar wasanaethau.
Gallwch gwblhau'r arolwg byr, dienw drwy ymweld â'n gwefan Fy nhref iach [Agorir mewn ffenest newydd] lle ceir dolen gyswllt ar gyfer yr arolwg yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth bellach.
Bydd yr holl safbwyntiau a gofnodir yn helpu tîm yr astudiaeth i nodi problemau penodol y gellir ymchwilio iddynt ymhellach yn rhan o waith y tîm. Caiff y canfyddiadau eu cyhoeddi mewn adroddiad cenedlaethol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru y flwyddyn nesaf.
Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:
Er mwyn deall yn wirioneddol beth yw sefyllfa iechyd yr amgylchedd yng Nghymru, mae angen i ni glywed gan y sawl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny. Rwy'n gobeithio y bydd cynifer o bobl ag sy'n bosibl yn cwblhau'r arolwg byr hwn, er mwyn i ni allu cael gwybodaeth eang o bob cwr o Gymru. Bydd hynny'n ein helpu i ddarparu asesiad gonest o ba mor dda y mae cynghorau'n gweithredu â llai o arian, a beth y mae angen ei wella - er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well.