Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru weithio’n dda gyda phartneriaid mewn amgylchiadau anodd i letya a chefnogi Wcreiniaid a oedd yn ffoi rhag y rhyfel

27 Mawrth 2024
  • Fe wnaeth Llywodraeth Cymru weithio’n dda gyda phartneriaid mewn amgylchiadau anodd i letya a chefnogi Wcreiniaid a oedd yn ffoi rhag y rhyfel

    Fe wnaeth mwy o newydd-ddyfodiaid na’r disgwyl trwy gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru a gormod o optimistiaeth ynghylch pa mor hir y byddai’r rhai a oedd yn cyrraedd yn aros yn eu llety cychwynnol arwain at gostau uwch

    Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ganiatáu i’r rhai a oedd yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin ddod i mewn i’r DU. Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, fe benderfynodd Gweinidogion Cymru y byddai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am Wcreiniaid fel un o uwch-noddwyr ‘Cartrefi i Wcráin’ a oedd yn golygu nad oedd angen i bobl gael eu paru â lletywr cyn cael fisa.

    Ym Trwy gadw’r cynllun uwch-noddwr ar agor tan fis Mehefin 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i gefnogi’r 1,000 o newydd-ddyfodiaid y dywedodd y byddai’n eu helpu yn ystod cyfnod cychwynnol yr ymateb brys. Fe wnaeth hyn er gwaethaf y posibilrwydd y byddai nifer sylweddol uwch o Wcreiniaid yn cyrraedd mewn gwirionedd, fel a ddigwyddodd.

    Erbyn mis Hydref 2023, roedd y cynllun uwch-noddwr yn gyfrifol am 3,232 – 45 y cant – o’r 7,118 o newydd-ddyfodiaid Wcreinaidd â lletywr yng Nghymru neu drwy’r cynllun.

    Mae’r adroddiad yn canfod, ar y cyfan, bod Llywodraeth Cymru a phartneriaid wedi cydweithio’n dda i helpu Wcreiniaid i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd, er y bu rhai problemau mewn perthynas â mynediad at ofal iechyd. Bu gan Ganolfan Gyswllt rôl hanfodol o ran cydgysylltu newydd-ddyfodiaid a rhoi cyngor.

    Ers cyfnod cychwynnol yr ymateb, mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid wedi cryfhau eu ffocws ar gynorthwyo Wcreiniaid i symud allan o Ganolfannau Croeso a llety cychwynnol arall. Pan oedd yr ymateb ar ei anterth ym mis Hydref 2022, roedd 32 o safleoedd ar agor yn lletya 1,840 o bobl. Erbyn mis Ionawr 2024, roedd hynny wedi gostwng i 4 safle, yn lletya 128 o bobl. Dim ond dau safle y bwriedir iddynt aros ar agor yn 2024-25.

    Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru yn wreiddiol y byddai’n costio oddeutu £18 miliwn i letya 1,000 o Wcreiniaid mewn Canolfannau Croeso. Fe wnaeth mwy o newydd-ddyfodiaid ac arosiadau hwy na’r disgwyl mewn Canolfannau Croeso a llety cychwynnol arall achosi i gostau gynyddu ar y cyfan ac fe ychwanegodd bwysau ar wasanaethau cyhoeddus ehangach. Roedd costau llety’n amrywio’n sylweddol ond gwelodd archwilwyr dystiolaeth bod Llywodraeth Cymru’n ceisio sicrhau gwerth am arian.

    Gwariodd Llywodraeth Cymru £61 miliwn ar yr ymateb i Wcráin yn ystod 2022-23, gan gynnwys costau llety a chostau eraill. Gan ystyried cyllid gan Lywodraeth y DU, mae Archwilio Cymru’n amcangyfrif bod y gost net i Lywodraeth Cymru’n £29.2 miliwn o leiaf.

    Mae costau llety is yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n disgwyl gwario £35.7 miliwn neu lai yn 2023-24, gyda’r mwyafrif yn cael ei ariannu o’i chyllideb ei hun. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyllidebu £4.5 miliwn ar gyfer 2024-25, heb gynnwys cymorth digartrefedd i lywodraeth leol. Mae’r sefyllfa tymor hwy ar gyfer Wcreiniaid yn dibynnu ar ddatblygiadau a phenderfyniadau ar lefel y DU ac yn rhyngwladol.

     

    Darllenwch ein hadroddiad cryno

    Читайте наш звіт українською мовою

    Читать наш итоговый отчет на русском языке

    Read our summary report in English

    Darllenwch ein hadroddiad cryno yn Gymraeg

    ,
    Rwy'n cydnabod yr ymdrechion sylweddol y bu’n rhaid eu gwneud wrth i wasanaethau cyhoeddus Cymru a'u partneriaid ymateb i letya a chefnogi pobl a fu’n cyrraedd o Wcráin. Roedd hyn i gyd ar adeg pan fo gwasanaethau wedi bod yn ymgodymu â gwaddol y pandemig a phwysau ehangach ar adnoddau. Bydd angen i'r gwaith barhau yng nghyd-destun prosesau penderfynu ehangach Llywodraeth y DU a chwrs digwyddiadau yn Wcráin. Mae'n dda gallu myfyrio'n gadarnhaol ynghylch y modd y cafodd yr ymateb o dan gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru ei reoli ar y cyfan. Serch hynny, mae gwersi pwysig ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys ynghylch asesiad cynnar Llywodraeth Cymru o nifer y newydd-ddyfodiaid, y ffordd y byddent yn cael eu lletya, a'r costau a fyddai’n codi o'r ymateb.     ​​​​​​​Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Nodiadau i Olygyddion

    • Fe wnaeth ein gwaith ystyried a yw Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'i phartneriaid, yn ymateb yn effeithiol i gefnogi Wcreiniaid yng Nghymru. Er bod y rhai sy'n ffoi o Wcráin yn aml yn cael eu galw'n ffoaduriaid, nid oes ganddynt statws cyfreithiol fel ffoaduriaid yn y DU. Mae Atodiad 1 yn yr adroddiad yn darparu rhagor o fanylion am ein gwaith. Mae Atodiad 2 yn egluro cyllid Llywodraeth y DU i Wcreiniaid yng Nghymru. Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi adolygu cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, gan gyhoeddi adroddiad ym mis Hydref 2023.
    • Rydym yn disgrifio cyllid Llywodraeth y DU a drosglwyddodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin ehangach. Fodd bynnag, mae ein dadansoddiad ni o wariant yn canolbwyntio ar gostau sy'n gysylltiedig ag ymateb Llywodraeth Cymru trwy ei chynllun uwch-noddwr. Nid yw ffigyrau gwariant a chyllidebau’n cynnwys costau ychwanegol i gyllidebau craidd cyrff cyhoeddus, er enghraifft costau darparu gwasanaethau gofal iechyd i Wcreiniaid. Nid ydynt ychwaith yn cynnwys costau staff Llywodraeth Cymru.
    • Roedd gan Lywodraeth Cymru reolaeth gyfyngedig ar nifer y fisâu a oedd yn cael eu dyroddi i Wcreiniaid ac ni allai fod yn sicr faint fyddai'n mynd mor bell â’u defnyddio. Swyddfa Gartref y DU sy’n rheoli ceisiadau am fisâu ar gyfer y cynllun uwch-noddwr fel rhan o'r broses Cartrefi i Wcráin. Roedd gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros ba mor hir y byddai'r cynllun uwch-noddwr ar agor i dderbyn ceisiadau. Fe benderfynodd Gweinidogion Cymru gadw’r cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau tan 10 Mehefin 2022.
    • Bydd fisâu tair blynedd y rhan fwyaf o Wcreiniaid o dan y cynllun uwch-noddwr yn dod i ben rhwng mis Ebrill 2025 a diwedd mis Mehefin 2025. Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2024 fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y gall Wcreiniaid wneud cais am estyniad o 18 mis dan y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru.
    • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodwyd gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan Senedd Cymru na’r Llywodraeth. 
    • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw’r enw ymbarél a ddefnyddir i ddisgrifio Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n endidau cyfreithiol ar wahân a chanddynt ill dau eu swyddogaethau cyfreithiol eu hunain.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cefnogi Wcreiniaid yng Nghymru

    View more