Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Methiannau mewn llywodraethiant ariannol yn golygu bod Cyngor Tref wedi gorwario £100,000
Dros gyfnod o dair blynedd gwariodd Cyngor Tref Penmaen-mawr fwy ar y cyngor cymuned nag a gafodd yn incwm. I dalu am y gorwario hwn, cymerwyd arian o’r cronfeydd wrth gefn, gan olygu nad oedd gan y Cyngor bron ddim arian wrth gefn. Mae hyn yn ôl adroddiad, sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd, a gyhoeddwyd heddiw (17 Hydref 2019) gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Mae’r adroddiad heddiw yn dangos bod y Cyngor wedi defnyddio ei weddill yn sylweddol iawn i dalu am ei wariant yn ystod 2016-17, 2017-18 a 2018-19. Er i’r symiau oddi wrth bobl yn talu treth gyngor wedi cael eu cynyddu bob blwyddyn yn ystod y cyfnod hwn, roedd gwariant blynyddol Cyngor Tref Penmaen-mawr yn fwy na’r arian a ddaeth i mewn. Nid oedd yn bosibl i’r lefel hon o wario barhau, gan fod terfyn amser ar allu’r Cyngor i ddibynnu ar ei gronfeydd wrth gefn, ac ar 31 Mawrth 2019 roedd yr arian yn y cyfrif cadw yn y banc bron wedi dod i ben.
Mae’r adroddiad yn rhoi manylion am nifer o fethiannau yn system llywodraethiant y Cyngor a gyfrannodd at ei reoli ariannol gwael. Roedd hyn yn cynnwys craffu annigonol ar y cyfrifon, gosod cyllideb yn annigonol, a diffyg dealltwriaeth briodol o gynnwys ei gronfeydd wrth gefn. Mae hefyd yn destun gofid fod rhybuddion gan yr archwilydd mewnol wedi eu hanwybyddu gan y Cyngor.
Ers y cyfnod dan sylw mae’r adroddiad yn nodi bod y Cyngor wedi gweithredu nifer o newidiadau i fynd i’r afael â’r gwendidau mewn llywodraethiant, sydd wedi golygu bod mwy o arian yn weddill. Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i’r Cyngor, gan gynnwys:
Cyhoeddir yr adroddiad hwn ar y cyd ag adroddiadau sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd ar gyfer Cyngor Cymuned Llanfrothen, Cyngor Cymuned Llanfair-pwll a Chyngor Cymuned Rhosyr. Mae’r adroddiadau hyn yn gosod allan fethiannau mewn trefniadau llywodraethiant a diffygion mewn rheolaeth ariannol a rheolaeth fewnol, sydd wedi achosi barn amodol. Roedd y tri chyngor wedi methu â chadw cofnodion cyfrifo priodol fel sy’n ofynnol dan Reoliad 6 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014.
Meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, heddiw:
“Mae’r gorwario gan Gyngor Tref Penmaen-mawr yn hollol gywir yn fater o bryder i’r cyhoedd, ac mae’n galondid i mi fod y Cyngor ers hynny wedi gwneud newidiadau i fynd i’r afael â’r gwendidau a nodwyd yn fy adroddiadau. Mae’n bwysig i bob un o’r pedwar cyngor ddysgu o ddarganfyddiadau fy adroddiadau a mynd i’r afael â’r diffygion rwyf wedi eu nodi. Mae gan aelodau o’r Cyngor gyfrifoldeb i drigolion lleol i sicrhau gofalu’n briodol am arian cyhoeddus a bod cynghorau’n byw o fewn eu hadnoddau ariannol.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion: