Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gwariant anghyfreithlon mewn dau gyngor yn uwch na £290,000

09 Tachwedd 2020
  • Diffygion arwyddocaol mewn trefniadau caffael a llywodraethu wedi’u canfod mewn dau gyngor

    Mae dau gyngor wedi ysgwyddo gwariant anghyfreithlon o fwy na £290,000, yn ôl adroddiadau a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn y ddau adroddiad, canfuwyd diffygion arwyddocaol mewn trefniadau caffael, gyda’r naill gyngor na’r llall yn meddu ar drefniadau priodol i sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau.

    Mae Cyngor Tref Bwcle yng Ngogledd Cymru wedi ysgwyddo gwariant sy’n gyfanswm o £153,898 ar ddau gontract glanhau, a gwariant o £116,064 ar benodi Rheolwr Canol y Dref. Yn yr achosion hyn, canfuwyd fod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â’i reolau sefydlog ei hun. Wrth wneud hynny, fe ysgwyddodd y Cyngor wariant anghyfreithlon a oedd yn gyfanswm o £269,962.

    Canfuwyd fod Cyngor Cymuned y Mwmbwls yng Ngorllewin Cymru wedi gorwario’i gyllideb yn sylweddol mewn perthynas â gwasanaethau ymgynghoriaeth gynllunio ac, wrth wneud hynny, ei fod wedi methu â chydymffurfio â’i Reolau Sefydlog a’i Reoliadau Ariannol ei hun. Ysgwyddodd y Cyngor wariant o £21,400 a oedd, yn ôl adroddiad heddiw, yn erbyn y gyfraith.

    ,
    Mae Cyngor Tref Bwcle yng Ngogledd Cymru wedi ysgwyddo gwariant sy’n gyfanswm o £153,898 ar ddau gontract glanhau...
    ,

    Mae’r adroddiadau’n cyflwyno nifer o argymhellion i’r cynghorau, gan gynnwys adolygu:

    • Rheolau sefydlog i gael gwared ag unrhyw amwysedd
    • Prosesau caffael i sicrhau cydymffurfiaeth
    • Amodau gorchwyl ar gyfer contractau

    Mae’r ddau adroddiad wedi derbyn barn archwilio amodol.

    ,
    Eleni yn unig rwyf wedi gorfod cyhoeddi deuddeg o adroddiadau er budd y cyhoedd, sy’n amlygu gwendidau difrifol o ran rheolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu mewn Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru. Mae hyn yn tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd a gall arwain at wastraffu arian cyhoeddus. Galwaf ar yr holl Gynghorau Tref a Chymuned i roi sylw i’r adroddiadau hyn a dysgu’r gwersi pwysig ynddynt fel bod cymunedau yng Nghymru’n cael y gwasanaethau a’r sicrwydd y maent yn eu llwyr haeddu. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Nodiadau i Olygyddion

    • Gan weithredu dan drefniadau dirprwyedig ac ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae’r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol wedi cyhoeddi’r adroddiadau hyn dan adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
    • Mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol ystyried a ddylai gyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd ar unrhyw fater arwyddocaol sy’n dod i’w sylw yn ystod archwiliad, a’i ddwyn i sylw’r corff archwiliedig a’r cyhoedd.
    • Mae’n rhoi cyfle i’r Cyngor egluro’r camau pwysig y mae wedi’u cymryd i wella trefniadau ac i sicrhau bod y risg y bydd methiannau o’r fath yn cael eu hailadrodd yn cael ei lleihau i’r eithaf.
    • Ar ôl cyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd, mae’n ofynnol i’r Cyngor ystyried yr adroddiad yn un o gyfarfodydd llawn y Cyngor o fewn un mis i ddyddiad ei gyhoeddi. Yn y cyfarfod, rhaid i’r Cyngor benderfynu a yw’r adroddiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau gweithredu; pa un a yw’r argymhellion yn yr adroddiad yn mynd i gael eu derbyn; a pha gamau gweithredu (os o gwbl) i’w cymryd mewn ymateb i’r adroddiad a’r argymhellion.