Gwneud synnwyr o argyfwng: Dysgu o Bandemig COVID-19

19 Chwefror 2021
  • Wythnos o ddysgu, arfer da a syniadau ar-lein – 8 Mawrth – 12 Mawrth 2021.

    Mae bron i flwyddyn wedi mynd ers y cyfyngiadau symud cyntaf yn y DU.

    Ers hynny, mae staff ar draws Archwilio Cymru wedi bod yn cadw cofnod o arferion newydd ac arloesol sy'n deillio o bandemig COVID-19. Casglwyd cyfoeth o ddata yn amrywio o symud gwasanaethau ar-lein i wirfoddoli yn y gymuned. Rydym wedi rhannu'r wybodaeth hon drwy flogiau, ar Twitter, mewn gweminarau ar-lein a chrynodebau bob pythefnos.

    Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym wedi penderfynu cynnal digwyddiad dysgu wythnos o hyd ar draws nifer o themâu, i rannu mewnwelediadau pellach gyda chi. Yn ystod yr wythnos, byddwn yn clywed gan wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ac yn dysgu sut y maent wedi ymateb i'r heriau amrywiol y mae COVID wedi'u cyflwyno yn ogystal ag edrych i'r dyfodol a sut y gallai'r pandemig newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yn y dyfodol.

    Byddwn yn ymdrin ag ystod o themâu yn ystod yr wythnos:

    • Rôl cymunedau yn ystod COVID-19
    • Llywodraethu Argyfwng
    • Strategaeth Ddeinamig
    • Effaith COVID-19 ar y gweithlu
    • Cyfathrebu ac ymgysylltu

    Sut y bydd yn gweithio

    Dros bum niwrnod, byddwn yn rhannu nifer o adnoddau gan gynnwys cyfweliadau fideo, blogiau a phodlediadau wedi'u recordio ymlaen llaw.

    Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn holi ac ateb byw ar Lywodraethu, a gweminar fyw ar Strategaeth Ddeinamig, sy'n cynnwys siaradwyr fel yr:

    • Athro Dave Snowden o Cognitive Edge
    • Ian Bancroft sef Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
    • Anne Louise Clarke sef Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid Archwilio Cymru
    • Auriol Miller sef Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Materion Cymreig

    I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein [agorir mewn ffenestr newydd]

    Bydd cynnwys newydd yn cael ei ryddhau'n ddyddiol i wylio, gwrando a darllen ar liwt eich hun, a bydd ar gael ar adran Arfer Da ein gwefan wedi hynny.

    Sut ydw i'n cofrestru fy niddordeb?

    Gallwch gofrestru eich diddordeb ar gyfer yr wythnos ddysgu drwy fynd i'n tudalen we bwrpasol [agorir mewn ffenestr newydd]. Ar ddechrau'r wythnos byddwch yn derbyn e-bost yn nodi ble y gallwch ddod o hyd i'r holl gynnwys.

    Gallwch hefyd gysylltu ag aelod o'r Tîm Arfer Da ar unrhyw adeg yn ystod yr wythnos a fydd yn gallu helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ar arfer.da@archwilio.cymru.