Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Tair swydd ar gael o fewn y timau cyflwyno iechyd a llywodraeth leol mewn lleoliadau ar draws Cymru
Rydyn ni’n chwilio am dri Archwiliwr Perfformiad (PS1) cymwys a phrofiadol i ymuno â ni ar unwaith o fewn y timau cyflwyno iechyd a llywodraeth leol, ar sail barhaol.
Fe fyddech chi’n gyfrifol am bob agwedd o drefnu gwaith, yn ogystal â chyfrannu at ei ddyluniad a’i chwmpas, ymchwilio a chasglu data, paratoi tystiolaeth a chyflwyno canfyddiadau i’r cyrff a archwilir.
Os mae gennych chi ddealltwriaeth dda o'r fframweithiau polisi, rheoli perfformiad a rheoliadol allanol sy'n ymwneud â'r sefydliadau sy'n cael eu harchwilio, ac yn wybodus iawn ar y sector cyhoeddus Cymraeg a’r amgylchedd gwleidyddol, hoffem glywed gennych chi. Rydyn ni’n chwilio am bobl gyda sgiliau drafftio ac ymchwilio effeithiol, sy’n dangos barn gadarn a sgiliau meddwl beirniadol i sicrhau bod canlyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn mynd i'r afael â'r materion allweddol.
Gallai'r swyddi gael eu lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd, Penllergaer neu Abergele yn dibynnu ar y rôl. Yn ddelfrydol, rydyn ni’n chwilio am o leiaf un person sy’n siarad Cymraeg, er bod y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer pob un o'r rolau.
Am fwy o fanylion ac i wneud cais, ewch i’n tudalen swyddi [agorir mewn ffenest newydd].