Mae’n anodd cyfrifo cost diwygio’r cwricwlwm yn gywir; fodd bynnag, mae cyllidebau cyfredol yn awgrymu y gall gwariant uniongyrchol fod ym mhen uchaf yr amcangyfrifon a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 neu’n fwy na’r amcangyfrifon hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyflawni rhaglen fawr i ddiwygio addysg dros y degawd diwethaf fwy neu lai, y mae Cwricwlwm newydd i Gymru’n ganolog iddi. Bydd y cwricwlwm yn caniatáu i bob ysgol ddatblygu ei chwricwlwm ei hun mewn modd hyblyg yn ôl anghenion lleol, o fewn rhai terfynau.
Canfu ein hadroddiad na wnaeth Llywodraeth Cymru asesu’r costau uniongyrchol na’r costau cyfle pan ddechreuodd ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Yn 2021, amcangyfrifodd fod datblygu’r cwricwlwm newydd wedi costio £159 miliwn rhwng 2015-16 a 2020-21, er ei bod yn cydnabod nad yw’r cyfanswm hwn yn cynnwys rhai costau. Fe ragwelodd gostau uniongyrchol o £198.5 miliwn rhwng 2021-22 a 2030-31 hefyd.
Mae papurau diweddar ar y gyllideb gan Lywodraeth Cymru’n awgrymu bod gwariant yn debygol o fod ym mhen uchaf amcangyfrifon a luniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2021, neu’n fwy na’r amcangyfrifon hynny. Mae ysgolion hefyd yn wynebu costau cyfle sylweddol, y mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y byddant yn £263 miliwn rhwng 2021-22 a 2025-26.
Gweithiodd Llywodraeth Cymru’n dda gydag ysgolion i gyd-ddylunio’r cwricwlwm newydd ac adnabod y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i’w gyflawni, er bod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar allu ysgolion i baratoi.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newid i’r amserlen ar gyfer rhoi’r cwricwlwm ar waith a oedd yn adlewyrchu’r pwysau y mae ysgolion wedi’u hwynebu. Bydd yr holl ysgolion cynradd yn addysgu’r cwricwlwm newydd o fis Medi 2022. Mae bron i hanner yr ysgolion uwchradd, canol ac arbennig yn bwriadu cyflwyno’r cwricwlwm newydd ym mis Medi 2022.
Er bod y pandemig wedi tarfu, mae wedi arwain at rai newidiadau sydd wedi bod o fudd i ddatblygu’r cwricwlwm. Er enghraifft, fe wnaeth atal y cwricwlwm am y tro yn 2020 alluogi ysgolion i fod yn fwy arbrofol, fe berodd i ysgolion roi blaenoriaeth i iechyd a lles disgyblion, ac mae sgiliau digidol athrawon a disgyblion wedi gwella hefyd.
Cydnabu Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru y byddai angen i gymwysterau newid i adlewyrchu’r cwricwlwm newydd. Mae Cymwysterau Cymru wedi gwneud rhai penderfyniadau ynglŷn â ffurf fras cymwysterau TGAU ac mae gwaith manwl ar y gweill ar y rhain a chymwysterau eraill yn barod ar gyfer dyfarnu cymwysterau newydd am y tro cyntaf yn 2026/27.
Gan edrych y tu hwnt i fis Medi 2022, mae risgiau allweddol y mae Llywodraeth Cymru’n effro iddynt ond y bydd angen iddi barhau i’w rheoli’n cynnwys:
- pwysau ariannol ac o ran y gweithlu a allai effeithio ar allu ysgolion i wireddu cwricwlwm newydd o safon uchel;
- sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i leihau anghydraddoldebau addysgol;
- sicrhau bod cymwysterau newydd yn gyson â’r cwricwlwm newydd ac yn ategu dilyniant i’r ystod lawn o opsiynau ôl-16;
- sicrhau mwy o ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a dysgwyr; ac
- egluro pa wybodaeth fydd ar gael i gefnogi’r dull newydd lle mae hunanwerthuso, gwella, atebolrwydd a thryloywder yn y cwestiwn.
Mae ein hadroddiad yn gwneud chwe argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod y Cwricwlwm newydd i Gymru’n cyflawni ei effaith fwriadedig ac yn darparu gwerth am arian.