Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Canfu ein hadroddiad risgiau sylweddol i gynaliadwyedd sefyllfa ariannol llywodraeth leol sy’n debygol o gynyddu dros y tymor canolig heb gamau gweithredu i’w lliniaru.
Dros wanwyn a haf 2024, fe wnaethom fwrw golwg ar gynaliadwyedd ariannol pob un o’r 22 o gynghorau yng Nghymru. Fe wnaethom ganolbwyntio ar:
I fod yn ariannol gynaliadwy, mae angen i gyngor ddarparu’r gwasanaethau sy’n ofynnol ganddo, yn ôl y gyfraith a disgwyliadau, o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddo yn y tymor hir.
O ystyried maint y pwysau o ran cyllid sy’n wynebu llywodraeth leol, mae ar lawer o gynghorau angen trawsnewid eu dull i symud y tu hwnt i bennu cyllideb fantoledig yn flynyddol i gyflawni gwerth am arian a chynaliadwyedd ariannol dros y tymor canolig. Mae hyn yn dilyn cyfnod o bwysau ariannol digynsail ar gyfer y sector cyhoeddus ers 2008.
Clywsom gan rai cynghorau fod materion neu brosesau cenedlaethol yn gwneud cynllunio ariannol yn anos. Roedd y rhain yn cynnwys pryderon ynghylch y fformiwla gyllido a’r setliad cyllid ar gyfer llywodraeth leol, a’r cyfrifoldebau cynyddol a osodir ar gynghorau.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi diweddariad i'n hofferyn Data Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol sy'n cynnwys data cymharol ar lefelau benthyca a chronfeydd ariannol wrth gefn cynghorau.
Mae cynghorau wedi gwneud penderfyniadau anodd i reoli eu sefyllfa ariannol trwy gyfnod hir o gyfyngiadau ariannol. Ond wrth i effaith gronnus y cyfyngiadau hynny gynyddu ni allwn dybio y bydd llywodraeth leol yn parhau i fod yn ariannol gynaliadwy. Dengys ein gwaith ni, er eu bod yn gwybod beth yw maint y bylchau yn eu cyllid, nad oes gan gynghorau gynlluniau tymor hwy i fynd i’r afael â hwy. Mae hyn yn eu gadael dan fygythiad oherwydd penderfyniadau byrdymor nad ydynt o bosibl yn cynrychioli gwerth am arian nac er lles hirdymor cymunedau lleol. O’i fynegi’n syml, mae llywodraeth leol yn ariannol anghynaliadwy dros y tymor canolig oni chymerir camau gweithredu, gan y rhai sy’n cefnogi ac yn rhyngweithio â’r sector yn ogystal â chynghorau eu hunain. Er ei bod yn neges anodd, rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn helpu cynghorau, Llywodraeth Cymru a phawb sy’n ymrwymedig i’r sector, i osod llwybr at ddyfodol cynaliadwy.