Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae angen i Fentrau Cymdeithasol gael eu defnyddio'n well gan awdurdodau lleol er mwyn sicrhau'r effaith mwyaf posibl ar gyfer y bobl a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu

01 Rhagfyr 2022
  • Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar helpu cynghorau i wneud y gorau o Fentrau Cymdeithasol ac i harneisio eu potensial

    Mae Mentrau Cymdeithasol yn eistedd rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Gallant fod o fudd i gymunedau difreintiedig; creu cyfoeth lle mae arian yn brin; a helpu i drechu tlodi a diwallu'r angen.

    Mae Mentrau Cymdeithasol yn cymryd llawer o ffurfiau gan gynnwys partneriaethau er elw neu ddielw, cwmnïau cydfuddiannol, sefydliadau cydfuddiannol, busnesau cymdeithasol, cwmni diddordeb cymunedol ac elusennau. Gall Mentrau Cymdeithasol felly weithio ym mhob sector o economi Cymru ac ym mhob rhan o'r wlad ac maent yn fwyfwy amlwg yn deddfwriaeth Senedd Cymru.

    Mae ein hadroddiad yn ystyried dull strategol awdurdodau lleol o weithio gyda Mentrau Cymdeithasol.  Rydym yn edrych ar y mecanweithiau sydd gan awdurdodau lleol i sicrhau gwerth am arian Mentrau Cymdeithasol a sut maen nhw'n cael eu defnyddio ledled Cymru.

    Oherwydd bod Mentrau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar gadw cyfoeth o fewn cymunedau, gwelon ni eu bod nhw'n gallu cynorthwyo pobl sydd mewn tlodi. Er bod enghreifftiau da o'r ffordd y mae rhai awdurdodau lleol yn cydweithio'n effeithiol â Mentrau Cymdeithasol, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau yn hyrwyddo cyfleoedd i ehangu rôl Mentrau Cymdeithasol i wneud y gorau o'u heffaith. Mae cymysgedd o arweinyddiaeth wael ac ymgysylltu a gwybodaeth annigonol o'r sector Menter Gymdeithasol gan awdurdodau lleol yn golygu nad yw eu potensial yn cael ei wireddu. Er bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu grantiau i fusnesau a'r trydydd sector, nid ydynt yn eu defnyddio i gefnogi Mentrau Cymdeithasol yn benodol. Yn benodol, mae angen i awdurdodau lleol wneud mwy i gyflawni eu cyfrifoldebau gofal cymdeithasol statudol i fentrau cymdeithasol a hyrwyddo a datblygu'r sector yn effeithiol i ddarparu mwy o wasanaethau mewn cymunedau.

    Ond fe ganfuom fod rhai awdurdodau lleol yn hyrwyddo cyfleoedd. Canfuom fod gan wefannau'r awdurdodau lleol gorau ddiffiniad clir o beth yw Menter Gymdeithasol. Roedd ganddynt gysylltiadau ag amrywiaeth eang o sefydliadau i gael mynediad at wybodaeth bellach a manylach, yn enwedig ar faterion cyfreithiol, megis Busnes Cymdeithasol Cymru, CWMPAS, Social Enterprise UK neu CBCDC. Roeddynt hefyd yn rhoi manylion cyswllt a gwybodaeth am raglenni cymorth lleol a grantiau sy'n cael eu gweinyddu gan yr awdurdod lleol.

    Mae angen i awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt y trefniadau a'r systemau cywir yn eu lle i gael y gorau o'u gwaith gyda Mentrau Cymdeithasol a'u hariannu. O ystyried hyn rydym wedi canolbwyntio ein hargymhellion ar gefnogi awdurdodau lleol i bwyso a mesur y gwaith cyfredol a siartio perthynas newydd gyda'r sector Menter Gymdeithasol. Rydym wedi creu offeryn gwerthuso i gefnogi swyddogion ac aelodau etholedig i nodi a chytuno ar y ffordd orau o weithio gyda Mentrau Cymdeithasol wrth symud ymlaen.

    ,
    Mae Mentrau Cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig yn yr anghenion sy'n diwallu a helpu pobl mewn cymunedau ledled Cymru. Gallai awdurdodau lleol wneud mwy i uchafu effaith Mentrau Cymdeithasol, cael gwell gwerth am arian o'u gwaith, a gwella gwasanaethau i bobl a chymunedau. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    ‘Cyfle wedi’i golli’ – Mentrau Cymdeithasol

    View more