Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae angen i GIG Cymru weithredu ar y cyd i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o ran amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio

31 Mai 2022
  • Gallai gymryd hyd at saith mlynedd neu fwy i GIG Cymru ddychwelyd rhestrau aros i’r lefelau cyn y pandemig

    Rhaid gwneud mwy i osgoi niwed i gleifion tra’u bod yn aros am driniaeth

    Mae’r ôl-groniad ar gyfer gofal wedi’i gynllunio’n un o’r heriau mwyaf i’r GIG yng Nghymru. Nid yw targedau amseroedd aros wedi cael eu cyrraedd am nifer o flynyddoedd. Mae’r ôl-groniad hwn wedi cael ei wneud yn llawer gwaeth gan y pandemig.   

    Ym mis Chwefror 2022, roedd bron i 700,000 o gleifion yn aros am ofal wedi'i gynllunio, cynnydd o 50% ers mis Chwefror 2020. Mae dros hanner y bobl sy’n aros ar hyn o bryd heb gael eu hapwyntiad cyntaf fel cleifion allanol sy’n golygu efallai nad ydynt yn gwybod gan beth y maent yn dioddef ac nad yw eu gofal yn gallu cael ei flaenoriaethu’n effeithiol.

    Er bod atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi bod yn codi am flynyddoedd, fe ostyngon nhw’n ddramatig ar ddechrau’r pandemig ac nid ydynt wedi dychwelyd yn llwyr i’r niferoedd cyn y pandemig. Rydym yn amcangyfrif, o’i gymharu â’r niferoedd cyn y pandemig, bod 550,000 o atgyfeiriadau ‘a allai fod ar goll’ a fydd o bosibl yn dod o hyd i’w ffordd yn ôl i mewn i’r system yn y pen draw. Pe bai hyd yn oed hanner yr atgyfeiriadau a allai fod ar goll yn rhai y mae angen triniaeth arnynt, bydd hyn yn cael effaith fawr ar adfer rhestrau aros a byddai’n cynyddu’r risg o niwed o ganlyniad i oedi cyn bod cleifion yn cael y gofal y mae ei angen arnynt.

    Fe drefnodd Llywodraeth Cymru fod £200 miliwn ychwanegol ar gael yn ystod 2021-22 i helpu i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o ran amseroedd aros; fodd bynnag, nid oedd cyrff y GIG yn gallu ei ddefnyddio i gyd. Fe wnaethant gynnig am £146 ac fe ddyrannwyd hynny iddynt, ond cafodd £12.77 miliwn ei ddychwelyd at Lywodraeth Cymru ar ddiwedd mis Mawrth 2022. Fe wnaeth cyrff y GIG nodi capasiti staff, diffyg lle ffisegol a chapasiti preifat cyfyngedig i ddarparu gofal wedi’i gynllunio fel rhwystrau i wario’r cyllid ychwanegol.

    Dengys ein gwaith modelu ni y byddai’n cymryd hyd at saith mlynedd neu fwy i ddychwelyd rhestrau aros i’r lefelau cyn y pandemig.

    Ar 26 Ebrill, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi’i gynllunio a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi targedau ar gyfer adfer rhestrau aros rhwng 2022 a 2026. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwarantu cyllid ychwanegol o £185 miliwn am bedair blynedd hyd at ddiwedd 2025-26 i roi cymorth i gyflawni ei chynllun cenedlaethol – sydd wedi’i fwriadu i drawsnewid a moderneiddio gofal wedi’i gynllunio.

    Mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru’n mynd i fod yn hanfodol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad ond ni fydd hwn, ar ei ben ei hun, yn datrys y broblem. Mae angen i’r GIG oresgyn rhai rhwystrau difrifol hefyd, gan gynnwys effaith barhaus COVID ar wasanaethau, lleihau effaith gofal brys ar ddarparu gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio a phrinderau staff a materion recriwtio hirsefydlog.

    Mae ein hadroddiad yn gwneud pum argymhelliad yn seiliedig ar yr hyn y mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud wrth iddi roi ei chynllun cenedlaethol ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Gweithio gyda chyrff iechyd i osod targedau cyflawni sy’n cynnwys uchelgais priodol;
    • Cynhyrchu strategaeth ariannu eglur gan gynnwys buddsoddiad cyfalaf hirdymor;
    • Datblygu cynllun y gweithlu i feithrin a chynnal capasiti gofal wedi’i gynllunio;
    • Rhoi trefniadau arweinyddiaeth system ar waith i gyflawni’r cynllun;
    • Sicrhau bod ei threfniadau’n canolbwyntio ar reoli risgiau clinigol sy’n gysylltiedig ag arosiadau hir, cefnogi cleifion tra’u bod yn aros, a darparu gofal yn effeithlon ac yn effeithiol

    Ochr yn ochr â’n hadroddiad, rydym hefyd wedi cyhoeddi offeryn data amseroedd aros sy’n nodi’r gwahanol amseroedd aros fesul bwrdd iechyd [mae’n agor mewn ffenestr newydd].

    ,
    Bydd pandemig COVID-19 yn achosi i’r GIG fod â sawl gwaddol parhaus, yn anad dim yr effaith sylweddol y mae wedi’i chael ar amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio. Yn union fel yr ymatebodd y GIG i her y pandemig, bydd angen iddo ymateb i her mynd i’r afael â rhestr aros sydd wedi tyfu i faint anferth. Bydd angen gweithredu ar y cyd mewn sawl cyfeiriad gwahanol, a bydd angen goresgyn rhai heriau hirsefydlog. Trefnwyd fod arian ychwanegol ar gael a rhaid ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau bod dulliau teg ac wedi’u targedu sy’n diwallu anghenion gofal wedi’i gynllunio pobl Cymru. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Notes

    • Mae'r data rydym yn ei ddefnyddio yn cyfeirio at lwybrau cleifion ac efallai y bydd gan glaf unigol fwy nag un cyflwr iechyd ac felly y bydd ar sawl llwybr. Mae hyn yn golygu bod nifer wirioneddol yr unigolion sy'n aros yn debygol o fod yn is.
    • Mae’r adroddiad hwn yn nodi prif ganfyddiadau adolygiad lefel uchel yr Archwilydd Cyffredinol o’r modd y mae GIG Cymru’n mynd i’r afael â’r ôl-groniad o ran cleifion yn aros am driniaeth ac yn ymateb i’r heriau sy’n wynebu gofal wedi’i gynllunio.
    • Mae ein hamcangyfrif ni o’r 550,000 o atgyfeiriadau ‘a allai fod ar goll’ yn wahanol i amcangyfrif Llywodraeth Cymru ei hun, sef oddeutu 500,000. Mae hyn i’w briodoli’n rhannol i’r ffaith ein bod wedi defnyddio’r wybodaeth fisol ddiweddaraf sydd ar gael gan gymharu patrymau atgyfeirio cyfredol â lefelau cyn y pandemig.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Mynd i’r Afael â’r Ôl-groniad mewn Gofal wedi’i Gynllunio yng Nghymru

    View more