Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Lansio cynllun sy'n torri tir newydd i godi safonau ar gyfer dyfodol cynaliadwy
Mae cynllun arloesol newydd wedi'i lansio yng Nghymru i gynyddu sgiliau a gallu ac adnoddau swyddogaeth gyllid y sector cyhoeddus – er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Mewn symudiad nas gwelwyd mo'i debyg o'r blaen symud, mae sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus wedi ymuno i hyfforddi a datblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol cyllid gyda'i gilydd. Mae'r cyrff hyn yn cynnwys Swyddfa Archwilio Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub, Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir ganddi, addysg uwch a sefydliadau addysg bellach – ynghyd â sefydliadau eraill sy'n derbyn arian cyhoeddus yng Nghymru, fel y DVLA, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Bathdy Brenhinol.
Mae'r cynllun Cymru gyfan yn darparu secondiadau i hyfforddeion cyllid i rannau eraill o'r sector cyhoeddus. Mae hyn yn rhoi mewnwelediad a phrofiad dyfnach iddynt o ddiwylliannau gwahanol, heriau a ffyrdd o weithio, i'w gwneud yn unigolion mwy cyflawn ac mewn sefyllfa well i lunio cyfeiriad darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Mae'r cynllun hefyd yn sefydlu rhwydweithiau rhanbarthol i hyfforddeion ac mae'n ystyried rhaglen arweinyddiaeth iau hefyd.
Fel rhan o'r fenter newydd hon, bydd tua 150 o hyfforddeion cyllid cyhoeddus yn ymgynnull yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Mawrth 1 Tachwedd i ddysgu rhagor am yr heriau y byddant yn eu hwynebu yn y dyfodol a sut y gallant gymhwyso eu hunain orau i ymdrin â'r rhain yn effeithiol.
Ymhlith y siaradwyr mae Simon Thomas AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw: “Mae'r cynllun hwn yn dangos ymrwymiad i annog a datblygu'r bobl orau i ddechrau gyrfaoedd mewn cyllid sector cyhoeddus.
Drwy gydweithio ar draws y sector cyhoeddus, gallwn ddatblygu'r sgiliau a'r arbenigedd ariannol angenrheidiol i ymdopi â'r heriau o'n blaenau – ac mae Cymru yn wlad sy'n ddigon bach inni allu gwneud hyn, a gwneud hyn yn dda.”
Dywedodd Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, heddiw: “Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o gydweithredu ar waith am ei fod yn cael ei gyflawni gan Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid, sy'n cynnwys unigolion ymrwymedig o bob rhan o'r sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru, ynghyd â rhai sefydliadau nad ydynt wedi'u datganoli ond sy'n derbyn arian cyhoeddus.
Rydym eisiau denu a chadw cenhedlaeth newydd o bobl sydd am ddilyn gyrfa ym maes cyllid cyhoeddus, i wneud gwahaniaeth i bobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.”
Dywedodd Umar Hussain, Prif Swyddog Ariannol Heddlu De Cymru, heddiw: “Rwy'n gwybod mor werth chweil a boddhaus y gall gyrfa mewn cyllid cyhoeddus fod ac rwyf hefyd yn gwybod yr heriau mae cyfarwyddwyr cyllid yng Nghymru yn eu hwynebu. Dyna pam rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid, i helpu i ysbrydoli a datblygu fy olynwyr.”
Am newyddion a thrafodaethau diweddaraf y digwyddiad, gallwch ddilyn yr hashtags yma ar y diwrnod - #FinanceFuture16 a #DyfodolCyllid16.