Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae angen mwy o eglurder ynghylch diben y Rhaglen, yn ogystal â threfniadau contract cryfach, a gwell cysondeb ag uchelgeisiau newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Rhaglen Cartrefi Clyd wedi helpu llawer o aelwydydd drwy roi mesurau effeithlonrwydd ynni iddynt am ddim. Fodd bynnag, wrth i’r Rhaglen bresennol ddod i ben yn ystod y ddwy flynedd nesaf, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau strategol allweddol ynghylch ei dyfodol.
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 155,000 o aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd, ac amcangyfrifir bod 144,504 o aelwydydd eraill mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd. Mae Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cynlluniau Nyth ac Arbed ac a weithredir gam Reolwyr Cynllun penodedig, wedi ei chynllunio i leihau biliau ynni y rhai sydd mewn tlodi tanwydd drwy osod mesurau effeithlonrwydd ynni. Rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2021, cafodd 16,042 o gartrefi fesurau effeithlonrwydd ynni am ddim o dan y Rhaglen. Fodd bynnag, mae cynllun Arbed wedi dod i ben bellach a disgwylir i gynllun presennol Nyth ddod i ben yn 2023.
Bydd angen i unrhyw gynlluniau newydd yn y dyfodol fod yn wyrddach er mwyn cyd-fynd ag uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru o gyflawni allyriadau carbon sero-net. Mae rhan fwyaf y mesurau a osodwyd ar draws y ddau gynllun yn cynnwys systemau gwresogi newydd. Hyd yma, mae 95% o’r prif systemau gwresogi a osodwyd mewn eiddo gan Nest a 98% o’r rhai a osodwyd gan Arbed yn defnyddio tanwydd ffosil. Fodd bynnag, byddai costau uwch dewisiadau eraill carbon isel, fel pympiau gwres, yn golygu bod llai o aelwydydd yn cael cymorth os defnyddir y mesurau hyn yn ehangach, oni cheir cynnydd sylweddol mewn cyllid neu fod y costau’n gostwng yn sylweddol.
Wrth benderfynu ar gynllun yn lle Nyth, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch ei diben craidd a phwy y mae’r rhaglen i fod i’w helpu. Fe’i cyflwynwyd yn wreiddiol i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, ond mae’r cynllun yn cael ei ddefnyddio mwyfwy i ddisodli boeleri sydd wedi torri neu foeleri aneffeithlon i bobl sydd ar fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd nad ydynt o reidrwydd mewn tlodi tanwydd.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu beth, os unrhyw beth, fydd yn disodli cynllun Arbed. Yn y dyfodol, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried a yw’r dull o dargedu aelwydydd ar sail ardal yn parhau i fod yn ymarferol. Mae’r cynllun wedi ei chael yn anodd dod o hyd i glystyrau o aelwydydd sydd ar incwm isel ac â chartrefi sy’n aneffeithlon iawn o ran ynni. Cyn iddo ddod i ben, roedd y cynllun wedi tangyflawni o’i gymharu â’i dargedau gwreiddiol a’i dargedau diwygiedig. COVID-19 oedd y rheswm dros y tangyflawniad hwn yn rhannol, ond roedd oedi sylweddol hyd yn oed cyn y pandemig ac mae oddeutu £7.5 miliwn o gyllid grant yr UE nad yw wedi ei ddefnyddio.
Hefyd, bydd angen cryfhau trefniadau rheoli contractau cyffredinol mewn unrhyw gynlluniau yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys monitro cydymffurfiad contractau yn agosach, mynd i’r afael ag amrywiadau sylweddol yn y costau a godir am gyflenwi a gosod yr un mesurau effeithlonrwydd ynni, a gwella gwybodaeth y rheolwyr.
Mae Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol o’r ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ymhlith rhai o’n dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed. Wrth i ni nesáu at fisoedd oer y gaeaf, mae’r ymchwydd diweddar mewn prisiau ynni yn pwysleisio pwysigrwydd cymorth o’r fath. Bydd angen i gynlluniau’r dyfodol fod yn wyrddach, yn gliriach, a bydd angen eu rheoli’n fwy tynn. Yr her fawr sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yw sut y bydd yn cydbwyso ei huchelgeisiau o ran newid yn yr hinsawdd, gan gefnogi hefyd yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd sydd fwyaf agored i niwed, sydd wedi dibynnu ar wresogi nwy llai costus i gynhesu eu cartrefi yn draddodiadol, ond sy’n allyrru lefelau uwch o garbon.
Nodyn
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli’r Rhaglen Cartrefi Clyd bresennol ac mae’n dilyn ein hadroddiad 2019 ar Dlodi Tanwydd.