Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae Archwilio Cymru wrth eu boddau bod Isobel Everett MBE wedi cael ei chydnabod am wasanaeth cyhoeddus ac am ddatblygu arweinwyr y dyfodol

17 June 2021
  • Mae Archwilio Cymru yn estyn llongyfarchiadau i Isobel Everett am gael ei chydnabod ag MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines yn ddiweddar. 

    Isobel oedd Cadeirydd cyntaf Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru gan wasanaethu rhwng 2013 a 2020. 

    O dan ei harweinyddiaeth a'i hangerdd, ailadeiladodd y sefydliad ei hygrededd a hyder ei rhanddeiliaid, gan ddod yn wasanaeth cyhoeddus gwerth am arian sy'n perfformio'n dda. 

    Yn bwysig, adeiladodd Isobel ymddiriedaeth a hyder Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru, â chyfrifoldeb newydd ar y pryd dros oruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru yn seneddol.

    Yn ystod ei hamser yn Cadeirio'r Bwrdd roedd Isobel yn sbardun, gan weithio gyda’r Archwilydd Cyffredinol, i ymgorffori newid yn niwylliant arweinyddiaeth y sefydliad. O ganlyniad, cydnabuwyd bod Swyddfa Archwilio Cymru yn fwy effeithiol o ran craffu ar effeithiolrwydd gwariant cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill a gwella'r diwylliant yn y sefydliad gan gynyddu ei henw da fel lle gwych i weithio.

    ,
    Roedd gweithio gydag Isobel yn fraint enfawr.  Daeth ei hangerdd dros wasanaethau cyhoeddus a'i phrofiad helaeth â budd mawr i Archwilio Cymru.  Rhoddodd gallu Isobel i ganolbwyntio ar agweddau pwysig ein gwaith, ei gallu i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'i sylw ar ein diwylliant gyfeiriad i Archwilio Cymru ar adeg dyngedfennol yn ein datblygiad.  Mae gweld bod Isobel wedi cael ei chydnabod am hyn ynghyd â’i chyflawniadau niferus ar draws ei gyrfa yn dyst gwych i hyn. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,
    Yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd y Bwrdd yn Archwilio Cymru, roeddwn wrth fy modd yn cefnogi'r sefydliad ac adeiladu ei enw da. Roeddwn yn arbennig o falch o weld effaith gwaith Archwilio Cymru a phŵer hyn i lywio gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus.  Roedd ymrwymiad y Bwrdd a'r holl staff mor drawiadol a hanfodol wrth alluogi newid. Er i mi roi fy ngorau i gefnogi Archwilio Cymru, dysgais lawer iawn yn ôl hefyd yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd.  Fe wnaeth hyn fy helpu i dyfu fel person ac fel Cyfarwyddwr Anweithredol. Byddaf yn parhau i wylio gyda balchder a diddordeb wrth i Archwilio Cymru barhau â'i daith a chryfhau ei effaith ar yr adeg heriol iawn hon i wasanaethau cyhoeddus.  Isobel Everett MBE