Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae Briff Data newydd yn amlygu heriau'r gweithlu sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru

26 Medi 2023
  • Er gwaethaf cynyddu i'r lefelau uchaf erioed, mae gweithlu'r GIG yng Nghymru yn parhau i wynebu heriau o ran recriwtio a chadw, absenoldeb salwch a dibyniaeth drom ar staff dros dro.

    Mae ein briff data yn amlygu'r heriau hyn ochr yn ochr â metrigau, tueddiadau a chymariaethau eraill i ddarparu darlun cyffredinol o weithlu'r GIG yng Nghymru.

    Mae cael gweithlu iach, llawn cymhelliant a chynaliadwy yn ganolog i lwyddiant y GIG. Fodd bynnag, mae gweithlu'r GIG dan bwysau sylweddol wrth i'r gwasanaeth geisio adennill ôl-groniadau mewn gofal wedi'i gynllunio a delio â'r galw cynyddol am ofal brys ac argyfwng.

    Ar hyn o bryd mae Archwilio Cymru yn cynnal archwiliadau manwl o drefniadau cynllunio'r gweithlu ym mhob un o gyrff y GIG yng Nghymru. Fel cyd-destun ar gyfer y gwaith hwnnw, rydym wedi cynhyrchu sesiwn friffio sy'n dod ag ystod eang o ddata ynghyd ar weithlu'r GIG yng Nghymru.

    Mae ein briff data yn dangos bod gweithlu'r GIG yng Nghymru yn parhau i dyfu gyda chynnydd o 27% yn nifer y gweithlu ers 2012-13. Mae hefyd yn dangos bod y GIG yng Nghymru wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr hyblyg ac i dyfu ei weithlu ei hun trwy ddarparu hyfforddiant ac addysg.

    Fodd bynnag, mae gweithlu'r GIG yng Nghymru yn parhau i wynebu nifer o heriau parhaus:

    • Roedd 6,800 o swyddi gwag ar draws yr holl grwpiau staff ddiwedd mis Mawrth 2022, gyda bylchau nodedig o bron i 2,500 o staff mewn nyrsio a bydwreigiaeth.
    • Mae mwy o staff yn gadael y GIG nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
    • Mae lefelau cyffredinol absenoldeb salwch wedi tyfu ac yn cyfateb i amcangyfrif o 1.4 miliwn o ddiwrnodau gwaith yn 2022-23.
    • Mae dibyniaeth barhaus a chynyddol ar staff asiantaeth a oedd yn cynrychioli 5.5% o weithlu cyffredinol y GIG yn 2022-23, ar gost o £325 miliwn.
    ,
    Nod y briff data hwn yw rhoi cipolwg ar weithlu'r GIG yng Nghymru a rhai o'r heriau y mae'n eu hwynebu. Ochr yn ochr â'r gwaith ar gynllunio'r gweithlu y mae fy archwilwyr yn ei wneud ym mhob corff GIG yng Nghymru, rwy'n gobeithio y gall fod yn ysgogiad ar gyfer bwrw ymlaen â'r camau hanfodol sydd eu hangen i gryfhau gweithlu'r GIG. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Adroddiad briffio ar ddata ynghylch Gweithlu’r GIG

    View more