Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae cyfle ar gael i Aelod Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

12 Chwefror 2025
  • Un safle sydd ar gael

    Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod sy'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol.

    Yr Archwilydd Cyffredinol hefyd yw Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

    Mae'r Bwrdd yn cynnwys:

    • pum aelod anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd)
    • Archwilydd Cyffredinol Cymru
    • tri chyflogydd Swyddfa Archwilio Cymru

    Gyda'i gilydd, mae'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithredu o dan hunaniaeth ymbarél Archwilio Cymru.

    Mae'r Senedd yn bwriadu penodi Aelodau Anweithredol i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, a fydd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2025.

    Manylion y cais

    Dyddiad cau: Hanner nos 7 Mawrth 2025.

    Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 28 Ebrill 2025.

    I wneud cais neu gael gafael ar ragor o wybodaeth, ewch i dudalen we penodiadau cyhoeddus y Senedd [agorir mewn ffenest newydd].