Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd rhagorol wrth frechu ei phoblogaeth yn erbyn COVID-19 ond nawr mae angen cynllun clir ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau

11 June 2021
  • Mae rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru wedi cael ei chyflwyno ar gyflymder sylweddol gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol ac o'r DU yn cydweithio i frechu cyfran sylweddol o boblogaeth Cymru.

    Er bod cerrig milltir uniongyrchol y brechlyn wedi'u cyrraedd, mae angen cynllun tymor hwy sy'n gyfuwch â gwybodaeth am y feirws a'r brechlynnau wrth iddi esblygu, ac yn ystyried sut i gynnal gweithlu cydnerth ar gyfer y brechlyn, gyda lefelau da yn ei dderbyn o fewn y gymuned.

    Wrth lunio'r adroddiad hwn, cyfraddau brechu Cymru oedd yr uchaf o blith pedair cenedl y DU, ac roedd y cyfraddau hefyd ymhlith yr uchaf drwy'r byd. Mae strategaeth frechu Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymhelliant cryf i yrru'r rhaglen yn ei blaen, ac mae'r holl gerrig milltir wedi'u cyrraedd hyd yma.

    Mae'r rhai sydd wedi bod yn ymwneud â gweithredu'r rhaglen wedi gweithio'n dda i sefydlu ystod o fodelau brechu sy'n gwneud y defnydd gorau o'r brechlynnau sydd ar gael, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i frechu'n nes at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae'r gyfradd sy'n derbyn brechlyn yn uchel ar y cyfan, ond ceir pryderon ynghylch y lefelau is ymhlith rhai grwpiau ethnig ac mewn cymunedau difreintiedig, yn ogystal â'r nifer nad ydynt yn cyrraedd apwyntiadau wedi'u trefnu.

    Cyflenwad y brechlyn yw'r ffactor pwysicaf sy'n effeithio ar weithrediad y rhaglen, ac mae hwnnw'n ddibynnol ar gyflenwad rhyngwladol. Mae'r stoc sy'n cael ei gadw yng Nghymru yn gyfyngedig, felly gallai achosion o darfu ar y cyflenwad gael effaith ddifrifol ar gyflymder gweithredu'r rhaglen.

    Hyd yma, mae staff y gweithlu wedi bod yn gweithio y tu hwnt i'w dyletswydd er mwyn bodloni'r galw am frechlynnau. Bellach mae angen i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru ddatblygu cynllun hirdymor i weithredu'r rhaglen frechu, gan gynnwys modelau cynaliadwy ar gyfer y gweithlu er mwyn ymateb i'r cyflenwad a'r galw wrth i wasanaethau eraill ailgychwyn.

    Ceir llawer o wersi i'w dysgu yn sgil y dull cadarnhaol a ddefnyddiwyd i weithredu'r rhaglen frechu hyd yma. Dylid ystyried cymhwyso'r gwersi hyn i strategaethau brechu ehangach, ac i'r broses o gyflawni rhaglenni eraill yn GIG Cymru.

    Ar ddiwedd Mai 2021:

    • Mae 3.3 miliwn o frechiadau wedi'u rhoi yng Nghymru.
    • Mae 84.4% o'r 2.52 miliwn o oedolion cymwys wedi derbyn dos cyntaf.
    • Mae 66.1% o'r 1.68 miliwn yn y grwpiau blaenoriaeth 'sy'n wynebu risg' wedi derbyn ail ddos.
    • Dim ond 0.4% o'r holl frechlynnau a ystyriwyd yn anaddas i'w defnyddio.
    • Y gost ar gyfer 2020-21 oedd £29.4 miliwn, ac eithrio'r gost o adleoli staff a chost y brechlynnau.
    ,
    Mae Cymru wedi gwneud camau breision gyda'i rhaglen frechu yn erbyn COVID-19. Mae cerrig milltir allweddol ar gyfer grwpiau blaenoriaeth wedi'u cyrraedd, a'r rhaglen yn mynd rhagddi'n dda, gyda chyfran sylweddol o boblogaeth Cymru bellach wedi'u brechu.  Dyma gyflawniad aruthrol, ac mae'n tystio i waith caled ac ymroddiad yr holl unigolion a'r sefydliadau fu'n ymwneud â gweithredu'r rhaglen frechu hyd yma. Er hynny, mae'r gwaith ymhell o fod ar ben. Mae angen cynllun tymor hwy sy'n symud y tu hwnt i'r cerrig milltir presennol ac yn ystyried materion o bwys fel gwytnwch y gweithlu brechu, gwybodaeth sy'n datblygu am ddiogelwch brechlynnau, yr angen am ddosau atgyfnerthu, a chynnal cyfraddau derbyn da - yn enwedig yn y grwpiau hynny lle gwelwyd rhywfaint o betruster o ran derbyn brechlyn. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Nodiadau i olygyddion:

    • Yn yr adroddiad hwn ystyrir gweithrediad y rhaglen frechu yng Nghymru. Trafodir ffurf y rhaglen, ei pherfformiad, y ffactorau sydd wedi effeithio ar weithrediad hyd yma, a'r heriau a'r cyfleoedd o'n blaenau yn y dyfodol.
    • Mae partneriaid y sector cyhoeddus ledled y DU wedi cydweithio ers dechrau'r pandemig i archwilio'r potensial am frechlyn yn erbyn COVID-19. Sefydlwyd y rhaglen yn wreiddiol yng Nghymru ym mis Mehefin 2020.
    • Mae'r Strategaeth Frechu i Gymru yn darparu fframwaith lefel uchel sy'n nodi'r disgwyliadau o ran blaenoriaethu a darparu brechlyn COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu cyngor ynghylch grwpiau â blaenoriaeth y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio. Mae'r strategaeth genedlaethol yn canolbwyntio ar sicrhau cyflenwad y brechlyn i Gymru, datblygu'r seilwaith a'r trefniadau i gyfathrebu ynghylch cynnydd.
    • Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol statudol annibynnol sector cyhoeddus datganoledig Cymru. Y mae'n gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £21 biliwn o gyllid y mae Senedd Cymru yn pleidleisio yn ei gylch bob blwyddyn. Trosglwyddir elfennau o'r cyllid hwn o Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn), ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth yr Archwilydd Cyffredinol wrth archwilio yn hollbwysig. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac ni chaiff ei waith archwilio ei gyfarwyddo na'i reoli gan Senedd Cymru na'r llywodraeth. 
    • Corff corfforaethol yw Swyddfa Archwilio Cymru sy'n cynnwys Bwrdd statudol ac arno naw o aelodau. Y mae'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifo'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol ynghylch cyflawni ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw'r enw ambarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw'n endid cyfreithiol ynddo'i hun.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Gweithredu rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru

    Gweld mwy