Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael ei rwystro rhag cyflawni ei swyddogaeth

02 Chwefror 2024
  • Canfu ein hadroddiad fod oedi parhaus wrth fabwysiadu dogfennau strategol allweddol wedi creu risgiau sylweddol i'r Cyngor.

    Oherwydd hyn, mae'r berthynas rhwng rhai aelodau a swyddogion wedi'u torri o fewn y Cyngor.

    Ein prif nod oedd darganfod a oedd gan y Cyngor drefniadau llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau gan ganolbwyntio ar y Gwasanaeth Cynllunio.

    Gwnaethom gynnal adolygiad o drefniadau'r Gwasanaeth Cynllunio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac i ba raddau y mae'n cefnogi cyflawni amcanion cyffredinol y Cyngor. Edrychodd ein gwaith ar sut mae'r Cyngor yn adolygu ac yn monitro ei drefniadau llywodraethu, gan gynnwys sut mae'n sicrhau gwerthoedd ac ymddygiadau priodol, gyda ffocws penodol ar y Gwasanaethau Cynllunio.

    Ar adeg ein gwaith, nid oedd yr Aelodau wedi mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol. Creodd hyn risgiau sylweddol i'r Cyngor. Ac er bod gan y Gwasanaeth Cynllunio drefniadau llywodraethu priodol ar waith, ac mae'n darparu hyfforddiant cynhwysfawr i aelodau, torrwyd perthynas Aelodau â swyddogion, ac mae cyngor swyddogion proffesiynol yn aml yn cael ei danseilio.

    ,
    Ar sail ein canfyddiadau, rwyf wedi nodi argymhellion sydd â'r bwriad o wella'r berthynas rhwng swyddogion ac aelodau a'u dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau priodol". Gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn helpu'r gwasanaeth cynllunio i gyflawni ei rôl alluogi hanfodol ar draws y Cyngor. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Ers ein gwaith archwilio, mabwysiadodd y Cyngor ei Gynllun Cyngor 2023-28 yn y Cyngor ar 13 Rhagfyr 2023 a'i Gynllun Datblygu Lleol yn y Cyngor Eithriadol ar 20 Rhagfyr 2023.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Mae Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael ei rwystro rhag cyflawni ei swyddogaeth

    View more