Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae paratoi cynllun adfer ar gyfer gwasanaethau arbenigol yn dilyn y pandemig yn flaenoriaeth ddybryd ond mae angen adolygu’r model comisiynu presennol yn ehangach hefyd.
0 "News"
Ers adolygiadau blaenorol yn 2015, mae trefniadau llywodraethu, rheoli a chynllunio ar gyfer gwasanaethau arbenigol wedi gwella, ond bydd effaith COVID-19 yn gofyn am strategaeth glir er mwyn adfer gwasanaethau. Dylid cymryd camau hefyd i gyflawni’r ymrwymiad yn “Cymru Iachach” er mwyn edrych o’r newydd ar y model presennol o ystyried rhai o’r heriau mewnol y mae’n eu cyflwyno i Fyrddau Iechyd.
Cydbwyllgor yw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy’n cynnwys y saith bwrdd iechyd lleol yng Nghymru ac sy’n cael ei ariannu ganddynt. Fe’i lletyir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac mae ganddo gyllideb flynyddol gyffredinol o £680 miliwn.
Mae’r Pwyllgor yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch cynllunio, caffael a monitro perfformiad gwasanaethau arbenigol i boblogaeth Cymru ar ran byrddau iechyd. Mae gwasanaethau arbenigol yn gymhleth yn aml ac maent yn cynnwys gwasanaethau Canser, Cardiaidd, Niwrowyddorau, Trawma Mawr ac Arennol. Darperir y gwasanaethau a gomisiynir gan nifer fach o ddarparwyr arbenigol y mae llawer ohonynt yng Nghymru, ond comisiynir rhai gan y GIG yn Lloegr hefyd. Yng Nghymru, mae Byrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Bae Abertawe yn derbyn cyllid sylweddol ar gyfer y gwasanaethau arbenigol y maent yn eu darparu.
Yn 2015, tynnodd dau adolygiad ar wahân sylw at faterion yn ymwneud â threfniadau llywodraethu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Gwelsom fod nifer o welliannau wedi eu gwneud i’r trefniadau llywodraethu cyffredinol ym Mhwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ers 2015. Gwnaed cynnydd da o ran cryfhau’r trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd gwasanaethau arbenigol, er bod lle o hyd i ganolbwyntio’n fwy ar ansawdd gwasanaethau yng nghyfarfodydd y Cydbwyllgor. Mae angen adolygu hefyd y trefniadau ar gyfer recriwtio aelodau annibynnol sy’n eistedd ar y Pwyllgor a’u taliadau cydnabyddiaeth o ystyried rhai o’r heriau a wynebwyd wrth lenwi’r swyddogaethau hyn.
Mae gan aelodau presennol y Cydbwyllgor berthynas waith iach ac maent yn gweithredu gyda’i gilydd yn dda. Fodd bynnag, mae’r model presennol yn peri gwrthdaro buddiannau posibl oherwydd bod rhai aelodau o’r Cydbwyllgor hefyd yn brif swyddogion y cyrff iechyd a gomisiynwyd i ddarparu gwasanaethau arbenigol.
Canfuom fod y trefniadau ar gyfer cynllunio gwasanaethau a gomisiynir yn dda ar y cyfan a bod pwyslais gwell ar werth. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau newydd allweddol megis modelau gwasanaeth newydd ar gyfer trawma mawr a llawdriniaeth thorasig wedi cymryd amser hir i gytuno a gweithredu. Canfuom hefyd fod pandemig COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau arbenigol, ac y dylai datblygu cynllun er mwyn adfer gwasanaethau arbenigol yn sgil y pandemig fod yn flaenoriaeth yn awr.
Dengys cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach, fwriad i adolygu nifer o swyddogaethau a letyir yn genedlaethol, gan gynnwys Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, gyda’r nod o “gyfuno gweithgarwch cenedlaethol ac o egluro llywodraethu ac atebolrwydd”. Er bod y trefniadau llywodraethu ar gyfer Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi parhau i wella, dengys ein hadroddiad fod nifer o agweddau o hyd ar fodel Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru sy’n haeddu rhagor o sylw.
Rydym yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Llywodraeth Cymru yn ein hadroddiad.
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru:
Llywodraeth Cymru:
Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn comisiynu tua £680 miliwn o wasanaethau arbenigol ar ran poblogaeth Cymru ac mae’n elfen hanfodol o system gofal iechyd Cymru. O ystyried y lefel hon o gyfrifoldeb a buddsoddiad, mae’r cynnydd y mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi ei wneud i wella ei drefniadau llywodraethu, rheoli a chynllunio yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn fy nghalonogi. Her uniongyrchol i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yw datblygu strategaeth glir i fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig ag adfer gwasanaethau arbenigol yn sgil pandemig COVID-19. Mae fy adroddiad hefyd yn dangos bod angen edrych yn fwy sylfaenol o hyd ar y model ar gyfer comisiynu gwasanaethau arbenigol, yn unol â’r ymrwymiad a nodir yng Nghynllun GIG Llywodraeth Cymru ‘Cymru Iachach’. Mae’n bwysig bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei hybu a gobeithiaf y gall y canfyddiadau a nodir yn yr adroddiad hwn lywio’r ddadl honno’n ddefnyddiol.