Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae Taliadau Uniongyrchol yn cefnogi annibyniaeth pobl ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr ond mae cyfleoedd i wella

06 Ebrill 2022
  • Mae anghysondebau'n arwain at bobl yn cael gwahanol safonau gwasanaeth 

    Mae Taliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn helpu pobl i fyw'n annibynnol a gwella eu lles, ond mae'n anodd dangos eu bod yn rhoi gwerth am arian.

    Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn annog Taliadau Uniongyrchol i helpu i wella llais, dewis a rheolaeth pobl. Mae Taliadau Uniongyrchol yn ddewis amgen i ofal neu gymorth a drefnir gan awdurdod lleol a gallant helpu i ddiwallu anghenion unigolyn neu ofalwr. Eu nod yw rhoi mwy o ddewis i bobl, mwy o hyblygrwydd a mwy o reolaeth dros y cymorth a gânt. Gellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol i ddarparu cymorth ar gyfer pethau bob dydd fel gwisgo a choginio, a gweithgareddau cymdeithasol fel ymweld â ffrindiau, dosbarthiadau nos a garddio. 

    Roedd llawer o'r bobl a arolygwyd gennym yn cydnabod bod Taliadau Uniongyrchol yn eu helpu i aros yn annibynnol. Dywedodd un defnyddiwr, 'Rwy'n hoff iawn o Daliadau Uniongyrchol a sut mae'n gadael i mi fyw mor annibynnol ag y gallaf.' Dywedodd un arall, 'Mae Taliadau Uniongyrchol yn caniatáu i mi gael rheolaeth ac, yn bwysicach, i gael y gofal sydd ei angen arnaf i allu manteisio i'r eithaf ar fywyd.' 

    Yn 2020-21, gwariodd awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol £2.29 biliwn ar yr holl wasanaethau cymdeithasol. Gwariwyd £79.5 miliwn (3.5%) o hyn ar Daliadau Uniongyrchol i oedolion. 

    Mae rheoli a chynorthwyo pobl i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol yn arwain i raddau helaeth at ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn derbyn gwahanol safonau gwasanaeth. Dywedodd un defnyddiwr a arolygwyd, 'Nid yw'r cyngor yn ei gwneud yn glir sut i wario'r arian. Mae'n rhaid i chi ofyn cwestiynau'n barhaus ac nid yw'r bobl yn y cyngor yn gwybod yr atebion. Mae'r system yn araf iawn ac yn cymryd hirach na’r angen. Nid ydynt yn hyblyg.’ Er gwaethaf rhai heriau sylweddol, sicrhaodd awdurdodau lleol fod defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn cael eu cynorthwyo ar y cyfan yn ystod y pandemig, ond roedd nifer sylweddol o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a arolygwyd gennym wedi profi anawsterau.

    Mae ein hadroddiad yn gwneud 10 o argymhellion sy'n cwmpasu:

    • sut i wella’r gwaith o hyrwyddo ac ymwybyddiaeth o Daliadau Uniongyrchol fel bod mwy o bobl yn cael y cyfle i'w defnyddio;
    • mynd i'r afael ag anghysondebau o ran darparu a rheoli Taliadau Uniongyrchol fel nad yw pobl ar eu colled; ac
    • ailwampio gwybodaeth reoli i ddangos effaith gadarnhaol a gwerth am arian Taliadau Uniongyrchol.
    ,
    Gall Taliadau Uniongyrchol wneud cyfraniad pwysig at ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn ac mae defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r diffyg defnydd o ran rheoli a gwerthuso perfformiad, sy'n golygu ar hyn o bryd nad yw'n bosibl barnu pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn perfformio ac a yw Taliadau Uniongyrchol yn rhoi gwerth am arian o'i gymharu â mathau eraill o ofal cymdeithasol. Mae hefyd angen mynd i'r afael â 'loteri cod post' lle mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio'n wahanol ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion

    View more