Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae trefniadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer gwirio ansawdd a diogelwch gofal cleifion wedi gwella'n sylweddol

24 Awst 2023
  • Mae Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd sy'n disgrifio'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth atgyfnerthu ei drefniadau llywodraethu ansawdd yn dilyn ein gwaith adolygu ar y cyd gwreiddiol yn 2019.

    Tynnodd ein hadroddiad ar y cyd yn 2019 sylw at nifer o wendidau sylfaenol yn nhrefniadau'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag arweinyddiaeth, ffocws strategol a'r trefniadau ar gyfer craffu ar ddiogelwch cleifion a risgiau i gleifion, y trefniadau ar gyfer rheoli pryderon a chwynion, a'r diwylliant sefydliadol. Roeddem yn pryderu bod y gwendidau hyn yn cael effaith andwyol ar allu'r Bwrdd Iechyd i nodi ac ymateb i broblemau o ran ansawdd a diogelwch gofal cleifion. Roedd ein hadroddiad yn 2019 yn cynnwys cyfanswm o 14 o argymhellion ar gyfer gwella.

    Nododd ein hadolygiad dilynol fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ymdrin â phryderon ac argymhellion ein hadroddiad yn 2019. Mae ganddo ffocws strategol cryfach ar ansawdd a diogelwch cleifion, ac mae mwy o eglurder o ran rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch cleifion o gymharu â 2019.

    Mae trefniadau'r sefydliad ar gyfer craffu ar ansawdd a diogelwch cleifion hefyd wedi gwella'n sylweddol, ac maent yn fwy agored a thryloyw. Ceir gwell ymwybyddiaeth hefyd o reoli risg ym mhob rhan o'r sefydliad, ac mae prosesau cliriach ar waith i nodi, rheoli ac uwchgyfeirio risgiau. Mae prosesau pryderon a chwynion y Bwrdd Iechyd yn gliriach o lawer, a chafodd rolau corfforaethol newydd eu creu er mwyn helpu i'w rhoi ar waith a sicrhau cysondeb. Mae diwylliant gwell o ddysgu hefyd, ac mae cyfres o drefniadau bellach ar waith er mwyn helpu i rannu'r gwersi i'w dysgu ac i wneud gwelliannau ym mhob rhan o'r sefydliad.

    Ceir tystiolaeth gynnar fod model gweithredu newydd y Bwrdd Iechyd yn cefnogi gwelliannau pellach o ran diwylliant sefydliadol, ond mae angen rhagor o waith er mwyn rhoi trefniadau monitro a rheoli perfformiad clir ar waith fel rhan o'r strwythur newydd.

    Dywedodd y staff wrthym fod y diwylliant mewnol yn gwella, a bod yr uwch-arweinwyr yn fwy gweladwy a hygyrch. Fodd bynnag, gwnaethant hefyd ddweud wrthym fod meysydd i'w gwella o hyd, yn enwedig o ran ymdrin â phocedi o ymddygiad gwael.

    ,
    Ar y cyfan, mae camau cadarnhaol wedi'u cymryd, sy'n arwydd clir o ymrwymiad, ymroddiad ac awydd y Bwrdd Iechyd i ymdrin â'n pryderon yn llawn ac i weithio i wella. Er hynny, mae angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau pellach o hyd er mwyn rhoi ei drefniadau llywodraethu ansawdd diwygiedig ar waith yn llawn ym mhob rhan o'r sefydliad ac i roi'r argymhellion nas cyflawnwyd eto ar waith yn llawn. Ar y cyd ag Archwilio Cymru byddwn yn parhau i fonitro ei gynnydd yn ofalus. Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
    ,
    Mae'n galonogol gweld y cynnydd cadarnhaol a wnaed gan y Bwrdd Iechyd i ymdrin â'r pryderon a'r gwendidau sylweddol a nodwyd gennym yn ein hadroddiad yn 2019. Mae'r gwelliannau a ddisgrifir gennym heddiw yn golygu bod y Bwrdd Iechyd mewn sefyllfa llawer gwell i wybod a yw ei wasanaethau yn ddiogel ac o ansawdd da. Rhaid cynnal y gwelliannau hyn nawr ac adeiladu arnynt wrth i'r Bwrdd Iechyd gwblhau'r broses o roi'r argymhellion a wnaed gennym yn 2019 ar waith. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Gwaith Dilynol ar yr Adolygiad ar y Cyd o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd

    View more