Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r broses gyflawni hyd yma wedi bod yn araf ac yn ddrutach nag a ddisgwyliwyd yn wreiddiol, yn rhannol oherwydd pwysau sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru
Beth bynnag fo’r sefyllfa o ran cyllid, mae’r cynlluniau sydd yn yr arfaeth ychydig bach yn brin o fod yn ddigon i gyrraedd y targed erbyn mis Mawrth 2026 ac ystyrir bod risgiau’n gysylltiedig â rhai o’r rhain.
Mae mynediad at dai fforddiadwy o ansawdd da’n un o gonglfeini iechyd a llesiant ac yn flaenoriaeth bolisi hirsefydlog. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2026 yn dweud y bydd yn adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu. Yn ymarferol, mae Llywodraeth Cymru wedi egluro ei bod yn cyfrif rhai cartrefi nad ydynt yn rhai a adeiledir o’r newydd ac nad ydynt yn rhai carbon isel.
Erbyn diwedd 2023-24, dair blynedd i mewn i’r rhaglen bum mlynedd, mae Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif ei bod wedi sicrhau llai na hanner yr 20,000 o gartrefi cymdeithasol. Mae wedi ceisio gwrthbwyso cynnydd araf o ran adeiladu cartrefi newydd â mwy o ffocws ar gaffael unedau eiddo presennol. Serch hynny, mae’r 19,913 o gartrefi a fydd wedi’u cyflawni neu a fydd yn yr arfaeth i gael eu cyflawni erbyn mis Mawrth 2026 ychydig yn fyr o’r targed. Ceir tebygolrwydd uchel na fydd rhai o’r cynlluniau yn yr arfaeth sy’n dwyn mwy o risg yn cael eu cyflawni mewn pryd neu o gwbl, beth bynnag fo’r sefyllfa o ran cyllid.
Mae costau cynyddol wedi golygu bod gwariant ar dai fforddiadwy wedi bod yn uwch nag a ddisgwyliwyd yn wreiddiol. Yn 2021, amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y byddai’n gwario oddeutu £1.6 biliwn ar gynlluniau cyfalaf craidd i gyrraedd y targed. Rhwng 2021-22 a 2023-24 roedd wedi gwario £1.1 biliwn ar y cynlluniau craidd, gyda chyllideb dybiannol bellach o £730 miliwn ar gyfer 2024-25 a 2025-26. Rydym ni’n amcangyfrif y gallai fod ar Lywodraeth Cymru angen cymaint â rhwng £580 miliwn a £740 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar ben tybiaethau cyllidebol presennol i fynd yn agos at gyrraedd y targed erbyn mis Mawrth 2026.
Heb gyllid ychwanegol, rydym ni’n amcangyfrif y bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn cyflawni rhwng 15,860 ac 16,670 o gartrefi sy’n cyfrif tuag at y targed o 20,000 erbyn mis Mawrth 2026. Ceir opsiynau i wneud i gyllid fynd ymhellach, gan gynnwys symud y cydbwysedd tuag at gaffael rhagor o gartrefi presennol, ond efallai na fydd y rhain yn cynnig gwerth am arian dros y tymor hwy.
Ceir agweddau cadarnhaol i’r trefniadau llywodraethu a rheoli tanategol ar gyfer cyrraedd y targed cartrefi cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys dull cydweithredol a’r prosesau craidd ar gyfer rheoli cyllid grant. Ceir meysydd i’w gwella hefyd o ran dull mwy hirdymor o ymdrin â’r angen, cynllunio a chyllido, a gwneud mwy i sicrhau bod buddsoddi mewn tai fforddiadwy’n cyfrannu at amcanion polisi ehangach. Mae ein hadroddiad ni’n gwneud argymhellion ynghylch y rhain a materion eraill.
Mae chwyddiant prisiau wedi taro’r rhaglen tai fforddiadwy’n galed. Yn awr mae Llywodraeth Cymru’n wynebu dewisiadau anodd ynglŷn â’i blaenoriaethau cyllido a’i dull os yw’n dal i fod yn ymrwymedig i gyrraedd neu fynd yn agos at ei tharged o 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn mis Mawrth 2026. Bydd ymateb Llywodraeth Cymru i hyn yn brawf pellach ar y modd y mae’n cymhwyso’r ffyrdd o weithio a ddisgwylir dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn cynnwys sut y mae’n taro cydbwysedd rhwng anghenion byrdymor a hirdymor, yn adeiladu ar ei dull cydweithredol, ac yn ceisio cynyddu i’r eithaf y deilliannau cadarnhaol a gyflawnir gan y gwariant cyhoeddus sylweddol yn y maes yma."