Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

O ymdrin â heriau wrth iddynt godi i ddiogelu at y dyfodol – yr her i wasanaethau cyhoeddus Cymru

20 Chwefror 2024
  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi galw am weledigaeth feiddgar ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru os yw am ddianc o duedd droellog o ymdrin â heriau wrth iddynt godi gan feddwl am y byrdymor i ddiogelu at y dyfodol a chynaliadwyedd hirdymor.

    Yng nghyd-destun cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn nodi themâu allweddol y mae gwaith Archwilio Cymru yn awgrymu a fyddai'n helpu'r llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus i sicrhau mwy o werth o'r arian y maent eisoes yn ei wario, gan gynnwys:

    • Lleihau cost a niwed i hyder y cyhoedd o fethiannau mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol;
    • Lleihau i’r eithaf golledion trwy dwyll a gwallau 
    • Sicrhau bod ein tirwedd gymhleth gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwerth am arian; 
    • Mynd i'r afael â materion hirdymor yn ymwneud â'r gweithlu ar draws llawer o sectorau a phroffesiynau;
    • Cyflymu'r defnydd o dechnoleg ddigidol i ysgogi trawsnewid o ran gwasanaethau ac effeithlonrwydd, tra'n mynd i'r afael ag allgáu digidol;
    • Newid mewn adnoddau tuag at atal er mwyn osgoi costau uwch yn y dyfodol; a
    • Gwerthuso'n drylwyr penderfyniadau o ran gwerth am arian a ategir gan fonitro effeithiol a gwerthuso canlyniadau.

    Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn dyrannu £26.4 biliwn, i fyny o £25.2 biliwn yn 2023-24.  

    Mewn termau real, mae cyllid refeniw o ddydd i ddydd 0.4% yn uwch na'r flwyddyn ariannol hon. Mae'r gyllideb cyfalaf 1.7% yn uwch. Y GIG yw'r maes gwariant unigol mwyaf, gan roi cyfrif am fwy na hanner cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru.

    Mae'r gyllideb yn dilyn cyfnod lle mae chwyddiant uchel wedi erydu gallu Llywodraeth Cymru i wario a bu pwysau cynyddol ar wasanaethau rheng flaen, gan gynnwys galw cronedig yn deillio o'r pandemig ac anghydraddoldeb cynyddol.

    Mae'r pwysau hyn yn cael eu teimlo ar draws y sector cyhoeddus, gyda chynaliadwyedd hirdymor a fforddiadwyedd gwasanaethau ac ymrwymiadau polisi cyfredol yn cael eu profi. 

    Dywedodd Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru:

     “Mae mynd i'r afael â materion hirdymor megis anghydraddoldeb, newid demograffig a sero net yn her anferthol pan fo cyllid yn brin. Ond mae'n rhaid ei wneud os yw gwasanaethau cyhoeddus am ddianc o duedd droellog i ymdrin â heriau wrth iddynt godi gan feddwl am y byrdymor.

    “Mae ein gwaith yn nodi dro ar ôl tro themâu a all, os eir i'r afael â nhw, helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gael mwy o werth o'r £26 biliwn a mwy y maent yn ei wario, ac adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd sydd ei hangen i fod yn sail i newid cynaliadwy hirdymor.”

    Nodiadau

    • Mae'r sylwebaeth hon yn cyfeirio at gynlluniau gwariant a nodir yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 sydd wedi bod yn destun craffu ac adrodd gan Bwyllgorau Senedd Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb derfynol yn fuan. Mae eisoes wedi hysbysu y bydd y gyllideb derfynol yn cynnwys dyraniad ychwanegol o £25 miliwn ar gyfer llywodraeth leol, o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu setliad llywodraeth leol Lloegr [Datganiad Ysgrifenedig: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Leol 2024-25 (7 Chwefror 2024) | GOV. CYMRU].
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
    • Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe'i penodwyd gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na'r llywodraeth.
    • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol o naw aelod sy'n cyflogi staff ac sy'n darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol wrth iddo arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw'r enw ymbarél a ddefnyddir i ddisgrifio Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n endidau cyfreithiol ar wahân gyda'u swyddogaethau cyfreithiol eu hunain.
    ,
    ,
    Mae ein gwaith yn nodi dro ar ôl tro themâu a all, os eir i'r afael â nhw, helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gael mwy o werth o'r £26 biliwn a mwy y maent yn ei wario, ac adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd sydd ei hangen i fod yn sail i newid cynaliadwy hirdymor. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    O ymdrin â heriau wrth iddynt godi i ddiogelu at y dyfodol – yr her i wasanaethau cyhoeddus Cymru

    View more