Pam a sut y rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth ychwanegol i'r Trydydd Sector yng Nghymru?

Pam a sut y rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth ychwanegol i'r Trydydd Sector yng Nghymru?
Rhoi gwybod am gloriau blaen

Mae ein memorandum yn canolbwyntio ar y £41.79 miliwn a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Ymateb COVID-19 Trydydd Sector yn ystod 2020-21 a 2021-22. 

Rydym wedi cyhoeddi memorandwm ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, sy'n ystyried:

  • Pam yn 2020-21 y rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth ychwanegol i'r Trydydd Sector yng Nghymru – drwy fwy o hyblygrwydd dros y cyllid presennol a hefyd rhywfaint o gyllid newydd – i ymateb i heriau uniongyrchol pandemig COVID-19;
  • Faint o gymorth parhaus a ddarparwyd yn ystod 2021-22 i helpu i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig a chynyddu gwydnwch y Trydydd Sector;
  • Sut y gweinyddodd Llywodraeth Cymru ei chymorth;
  • Sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru gydbwyso gofynion i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n briodol gyda'r angen i ymateb yn gyflym; a
  • Faint o sefydliadau a gafodd gymorth, ar gyfer pa weithgareddau, ac a yw gwerthusiadau cychwynnol yn dangos canlyniadau llwyddiannus.
Cronfa Ymateb COVID-19 y Trydydd Sector - Memorandwm